|
Helo, a chroeso i wefan Ffordd o Fyw ar ei newydd wedd. Mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu grantiau i 14 o brosiectau yng Nghymru fel rhan o'r Fenter Teuluoedd Iach. Bydd y rhaglen yn profi ffyrdd newydd o hyrwyddo bwyta'n iach a gweithgaredd corfforol ymhlith plant dan 12 oed a'u teuluoedd. Penododd y Gronfa Loteri Fawr Hall Aitken i ddarparu cefnogaeth i'r rhaglen; gallwch ddysgu mwy amdanom drwy glicio fan hyn. Ar y wefan hon fe gewch y newyddion diweddaraf ar y rhaglen a gwybodaeth am fyw yn iach; o ddeddfwriaeth y llywodraeth i rasys hwyl yn eich parc lleol. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys fforwm i brosiectau drafod syniadau a chalendr ar-lein ar eich cyfer i restru unrhyw ddigwyddiadau sydd gennych ar y gorwel. Os hoffech i ni gynnwys erthygl ar rywbeth rydych chi'n ei wneud anfonwch e-bost atom gyda manylion cryno ac fe gysylltwn â chi. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau cefnogi a byddwn yn ychwanegu at y rhain wrth i'r rhaglen fynd yn ei flaen. Os hoffech gael rhywbeth wedi'i ychwanegu, dywedwch wrthym. Eich gwefan chi yw hon; gwnewch y gorau ohono! Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad. |
Mae’r wefan ffitrwydd newydd KidzMove.com ar gyfer unrhyw un sydd am helpu plant i symud mwy, i aros yn gorfforol actif ac i gael hwyl. Mae fideos am ddim ar y wefan, a syniadau i athrawon, rhieni, gofalwyr, gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr chwaraeon i’w defnyddio i helpu cadw plant wedi’i diddanu ac yn gorfforol ffit.
Darllen mwy...Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Ffordd o Fyw ar 7 Mawrth.
Darllen mwy...No current events.