Big Way Of Life

Telerau ac Amodau PDF Argraffu Ebost
TUESDAY, 27 OCTOBER 2009 11:11

Defnyddio ein gwefan

Cewch ddefnyddio gwefan y Ffordd Fawr o Fyw yn unol â'r Telerau a'r Amodau sydd wedi eu nodi ar y dudalen hon. Mae hygyrchu a defnyddio'r safle hwn gennych yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau a'r Amodau sydd mewn grym ar yr adeg y byddwch yn ei ddefnyddio.

Eiddo / Hawlfraint deallusol

Mae'r hawlfraint ar y deunydd ar y wefan hon (yn cynnwys testun, delweddau, sain, fideo ac animeiddio) yn eiddo i Hall Aitkens Cyf neu ei drwyddedwyr. Ni chewch ailgyhoeddi, ail-drosglwyddo, ailddosbarthu na gwneud y deunydd hwn ar gael i unrhyw barti arall mewn unrhyw ffordd arall nac mewn unrhyw gyfrwng arall heb awdurdod priodol ysgrifenedig ymlaen llaw.

Mae'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n adnabod y Ffordd Fawr o Fyw yn farciau perchnogol i'r Ffordd Fawr o Fyw ac ni ellir eu hatgynhyrchu heb awdurdod ysgrifenedig ymlaen llaw gan Hall Aitkens Cyf. 

Dylid anfon ceisiadau am gymeradwyaeth o'r fath at:

Hall Aitken Cyf
Temple Court
Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HA

Rhif ffôn:  0292 078 6616
Ffacs: 0292 078 6617
Ebost: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Rhowch fanylion o'r hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r deunydd perthnasol a rhowch eich manylion cyswllt hefyd: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac ebost.

Polisi cysylltu

Nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau sy'n cael eu gwesteia ar y wefan hon. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich gwefan chi. Rhaid i'n tudalennau lwytho yn ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Dim ond gyda'n derbynyddion grant, ein partneriaid a'r gwefannau sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol yr ydym yn cysylltu, i ychwanegu at ein gwasanaethau gwybodaeth ein hunain.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, barnau na dolenni o'r gwefannau hyn.

Gwadiad

  1. Rydych yn cydnabod eich bod yn defnyddio'r Wefan yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled (boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol, yn ddamweiniol neu'n ôl-ddilynol) o ganlyniad i'ch defnydd o'r Wefan a'r Deunydd.
  2. Caiff yr holl Ddeunydd ei ddarparu ar sail 'FEL Y MAE' yn unig. Ni allwn warantu y bydd y Wefan nac unrhyw Ddeunydd a ddarperir yn cwrdd ag unrhyw rai o'ch anghenion na'ch gofynion nac y bydd yn gyflawn, yn rhydd o gamsyniadau, yn gywir neu y bydd yn cael ei ddarparu heb ymyriadau, namau neu gamsyniadau. Yn unol â hyn ac i'r graddau pellaf a ganiateir gan gyfreithiau perthnasol, rydym drwy hyn yn ymwrthod â phob gwarant ac amod, boed wedi'u mynegi, ymhlyg neu'n statudol, ynghylch y Wefan a'r Deunydd, yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw warant o fodlonrwydd, ansawdd neu addasrwydd i bwrpas penodol a pheidio â thorri unrhyw hawliau trydydd parti.
  3. Byddwn yn anelu i gywiro unrhyw gamsyniadau neu esgeulustod cyn gynted â phosib ar ôl i ni gael ein hysbysu amdanynt.

Rydych yn cytuno y byddwch yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol ac na fyddwch trwy wybod yn defnyddio'r Wefan am unrhyw bwrpas amhriodol neu anghyfreithiol (yn cynnwys torri unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol).