Big Way Of Life

Polisi preifatrwydd PDF Argraffu Ebost
TUESDAY, 27 OCTOBER 2009 11:12

Rheolwr Data'r gwefannau hyn yw Hall Aitcen Cyf. Nid yw Hall Aitken Cyf yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol eraill ac nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys dolenni ar y wefan hon at wefannau eraill.

Mae'r datganiad yn cynnwys pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu am ddefnyddwyr pan fyddant yn ymweld â gwefan y Ffordd o Fyw Fawr. Mae hefyd yn cynnwys manylion ar sut y caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio, os caiff ei datgelu, a'r ffyrdd a ddefnyddiwn i warchod preifatrwydd defnyddwyr.

Cyfrinachedd a diogelwch

  • Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn unol â Deddf Gwarchod Data 1988.
  • Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i drydydd partïon heb eich cydsyniad oni bai bod gofyn i hynny ddigwydd yn ôl y gyfraith.
  • Mae gennych hawl i weld yr wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch unrhyw bryd.

Darllenwch y ddogfen am ryddid gwybodaeth: Deddf rhyddid gwybodaeth

Gwybodaeth a gasglwn gan ymwelwyr

Dylid anfon adborth a sylwadau ar y gwefannau a restrwyd uchod at Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon dim ond i ddatblygu a gwella'r wefan neu i ymateb i chi lle mae hynny'n angenrheidiol.

Cwynion, ceisiadau am wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei defnyddio at bwrpas gweinyddu eich cwyn, eich cais am wybodaeth neu’ch ymholiadau cyffredinol. Mae’n bosib y byddwn yn trosglwyddo eich manylion neu’n eich cyfeirio at ddosbarthwr Loteri arall, at adran o’r Llywodraeth neu at sefydliad perthnasol arall lle mae hynny’n angenrheidiol. 

Hysbysiadau ebost a llythyrau newyddion

Os byddwch yn cofrestru i dderbyn hysbysiadau ebost byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni i ddarparu’r gwasanaeth(au) y gwnaethoch gais amdanynt. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â’r rhai sy’n derbyn ein hysbysiadau ebost i ofyn iddynt ein helpu i werthuso a gwella’r gwasanaeth a gynigiwn.

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod am ganslo tanysgrifiad byddwn yn eich tynnu oddi ar ein rhestr bostio a bydd eich manylion yn cael eu dileu o’n cofnodion.

Gwybodaeth am ddefnyddio'r wefan

Cwcis a ffeiliau cofnodi

Data sy'n cael eu creu pan fyddwch yn ymweld â gwefan yw cwcis, ac maen nhw'n cynnwys rhif anhysbys, unigryw. Cânt eu storio yng nghyfeiriadur cwcis eich disg caled, ac nid ydynt yn terfynu ar ddiwedd eich sesiwn. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac nid oes modd eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol. Os dewiswch beidio â derbyn y cwci, fydd hyn ddim yn effeithio ar eich mynediad i fwyafrif y cyfleusterau sydd ar gael ar ein gwefannau.

Mae safleoedd y Ffordd Fawr o Fyw'n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth heb fod yn bersonol am ddefnyddwyr o'r safleoedd, nid yw'r safleoedd yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi ar wahân i honno sydd ei hangen ar gyfer gweinyddu systemau'r gwefannau.

Mae ffeiliau cofnodi'n cadw cofnod o ddefnydd ymwelwyr o'r safleoedd. Mae tîm Cyfryngau Newydd Hall Aitken yn llunio gwybodaeth ffeiliau cofnodi gan ein holl ymwelwyr a defnyddiwn yr wybodaeth i wneud gwelliannau i'r safleoedd ac i'r wybodaeth arnynt. Yn debyg i gwcis, nid yw ffeiliau cofnodi'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol.

Os ydych yn derbyn fersiwn y llythyr newyddion ar fformat HTML bydd y ffaith eich bod yn agor y llythyr yn cael ei hysbysu i ni a'i gadw. Mae'r clicio a wnewch yn y llythyr newyddion hefyd yn cael ei gadw. Caiff y rhain a'r ystadegau agored eu defnyddio ar ffurf gyfanredol eu defnyddio i roi arwydd i ni o boblogrwydd y cynnwys ac i'n helpu i wneud penderfyniadau am gynnwys a fformatio yn y dyfodol.

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y dudalen hon.

Diweddarwyd ddiwethaf Rhagfyr 2009.