Big Way Of Life

Her i'r Teulu Sir Benfro PDF Argraffu Ebost
FRIDAY, 04 DECEMBER 2009 15:51

Mae Her Teuluoedd Sir Benfro, Prosiect Ffordd o Fyw, yn brosiect newydd i gefnogi'r teulu cyfan ac sydd wedi bod yn gweithredu yn Sir Benfro ers mis Ionawr 2009.

Bydd teuluoedd sy'n cymryd rhan ar y rhaglen yn derbyn cefnogaeth ddwys yn rhad ac am ddim gan hyfforddwr ffordd o fyw personol i'w helpu i wneud newidiadau iach i'w ffordd o fyw.

Bydd hyfforddwyr ffordd o fyw personol yn gweithio gyda theuluoedd i wneud asesiad cychwynnol o'u hanghenion ac yn cytuno ar raglen deuddeg wythnos, wedi ei hanelu at esgor ar ymddygiad ac agweddau mwy cadarnhaol tuag at:

  • bwyta'n iach
  • gweithgaredd corfforol
  • chwarae bywiog

Bydd y rhaglen yn cael ei theilwra i gwrdd ag anghenion pob teulu unigol.

Bydd llawer o'r gweithgareddau’n digwydd yn y cartref ond bydd cyfleoedd hefyd i deuluoedd ymuno mewn gweithgareddau grŵp lle mae hynny'n briodol.

Manylion Cyswllt y Prosiect

Katie Daly
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

e: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.

t: 01437 775 113

Gwefan y Prosiect: http://www.healthchallengepembrokeshire.co.uk