| Disgyblion yn dewis llysiau, ond yn eu rhoi yn y bin |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 28 JUNE 2010 11:00 |
|
Mae gennym newyddion da a newyddion drwg am ddisgyblion ysgol a'r hyn y maen nhw'n ei fwyta. Y newyddion da yw bod mwy o ddisgyblion yn dewis llysiau gwyrdd i ginio. Newyddion da dros ben. Ond y newyddion drwg yw bod y rhan fwyaf o'r llysiau hynny'n cael eu taflu i'r bin. Dydy hynny ddim yn newyddion da. Mewn arolwg gan yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol a edrychodd ar 6,700 o blant mewn 136 o ysgolion cynradd yn 2009, canfuwyd fod 57% yn cymryd llysiau, ond fod 41% o'r bwydydd hynny heb eu bwyta. Roedd 40.7% o'r llysiau'n cael eu gwastraffu a 32.6% o salad yn cael ei adael heb ei fwyta. Roedd canran tebyg o ffrwythau (32.7%) yn cael eu gadael heb eu bwyta. Dim ond 23% o'r plant oedd yn cymryd ffrwythau, ond roedd hyn yn welliant ar yr 16% oedd yn eu dewis yn arolwg yr ymddiriedolaeth yn 2005. Roedd gan seigiau carbohydrad a llysiau, megis lasagne llysiau, hefyd gyfradd gwastraff uchel o 34.6% a hynny yn dilyn cyfradd dewis isel o 5.4%. Canfu'r astudiaeth fod cyfanswm o 24% o fwyd a diod disgyblion heb ei fwyta, o gymharu â 23% yn 2005. "Mae hyn yn awgrymu fod angen gwneud mwy i annog disgyblion i orffen bwyta'r llysiau, y salad a'r ffrwythau sydd wedi cael eu cymryd," medd yr adroddiad. Fodd bynnag, fe ganfu'r astudiaeth fod plant yn dewis llai o fwydydd yn cynnwys starts wedi'u coginio mewn braster. Roedd llai na hanner yr ysgolion (48%) o'r ysgolion yn cwrdd â'r safon ofynnol am lefel haearn, dim ond 54% yn cwrdd â'r safon am sinc a dim ond 19% oedd yn cwrdd â'r safon am lefelau sodiwm. Dim ond 12% o'r ysgolion oedd yn darparu darn o ffrwyth i bob disgybl bob dydd ac roedd tua un o bob tri'n darparu llai na hanner ffrwyth, yn ôl yr ymchwil. Canfu'r arolwg fod dros hanner y disgyblion (51.3%) yn yfed dŵr gyda'u cinio yn 2009, i fyny o 30% yn 2005. ond roedd 26% o'r dŵr hwn yn cael ei wastraffu. Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y llynedd gan weithwyr maes wedi'u hyfforddi oedd yn cofnodi'r eitemau bwyd a diod oedd yn cael eu cymryd a'u bwyta gan 10 disgybl a ddewiswyd ar hap. Ar ôl i'r disgyblion orffen eu cinio, roedd yr ymchwilwyr yn pwyso ac yn cofnodi unrhyw beth dros ben. Cafodd yr ymchwil ei chynnal chwe mis ar ôl iddi ddod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ysgolion Lloegr gwrdd â safonau bwyd a maetholion newydd, i wneud yn siŵr fod plant yn bwyta'n iachach. Dywedodd prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol, Judy Hargadon, fod yr ymddiriedolaeth wrth ei fodd â'r cynnydd oedd yn digwydd. "Mae arlwywyr ar draws y wlad yn haeddu canmoliaeth enfawr am y newid mawr yn yr hyn sy'n cael ei gynnig i blant, ac am bopeth y maen nhw wedi'i wneud i annog disgyblion i fynd am opsiynau iachach. Mae'r ffigurau'n bendant yn dangos fod llawer o waith i'w wneud o hyd, i gwrdd yn llawn â'r safonau i gyd ac i annog plant i fwyta beth sydd ar eu platiau." Meddai Gweinidog Ysgolion San Steffan, Diana Johnson: "Rydym eisiau gwneud yn siŵr fod plant yn bwyta cinio iach a maethlon yn yr ysgol achos rydym yn gwybod fod hyn yn helpu eu gallu i ganolbwyntio a'u hymddygiad yn y dosbarth. Mae gwneud yn siŵr fod plant yn cael dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd a'r lefelau iawn o fraster, halen a siwgwr yn gam hanfodol tuag at wrth-droi gordewdra mewn plant a gwarchod eu hiechyd. Dylid llongyfarch cogyddion ysgol, goruchwylwyr amser cinio ac arlwywyr am yr ymdrechion a'u hannog i gario ymlaen â'r gwaith da."
|
No current events.