| Dwy ddogfen ymchwil yn hyrwyddo iechyd corfforol |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 28 JUNE 2010 12:15 |
|
Mae gennym gwpl o ddogfennau ymchwil i edrych arnynt, y ddau'n trafod pwysigrwydd iechyd corfforol. Enw'r cyntaf yw Promoting Physical Activity in Children and Youth ac mae wedi'i anelu at ysgolion sy'n ceisio cynyddu faint o weithgareddau corfforol y maen nhw'n ei gynnig ar hyn o bryd, er y gall hefyd fod yn fanteisiol i unrhyw grwpiau sy'n gweithio gyda phlant ac mae'n ddogfen ddiddorol i'w darllen yn gyffredinol. Mae'n trafod meysydd megis pam y mae gweithgaredd corfforol i blant yn bwysig, pa mor hir y dylen nhw fod yn ymarfer a sut y gall gweithgaredd corfforol barhau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. I edrych ar y ddogfen hon, cliciwch fan hyn. Enw'r ail bapur yw Physical Activity and Health in Europe: Evidence fôr Action ac mae ynddo nifer o adrannau diddorol yn cynnwys pa ffactorau sy'n dylanwadu ar weithgaredd corfforol a beth y gall y sector iechyd ei wneud i gynyddu lefelau gweithgaredd corfforol. I edrych ar y ddogfen hon, cliciwch fan hyn. Er bod y dogfennau hyn yn ddiddorol i'w darllen, maen nhw'n gallu bod braidd yn dechnegol ar brydiau, felly peidiwch â synnu os bydd unrhyw blant sy'n ceisio eu darllen yn diflasu'n eitha' cyflym!
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.