| Gwobr Ymddiriedolaeth Marsh |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 09 JULY 2010 11:47 |
|
Mae'r bobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a theuluoedd yn mynd i gael eu cydnabod gan Wobr Ymddiriedolaeth Marsh am Gyflawniad Eithriadol wrth Weithio gyda Phlant a Theuluoedd. Mae'n cael ei gyllido gan, a'i gynnig mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh, Mae'n cael ei gynnig i enwebeion nad ydynt yn gweithio i Barnado's – rhywbeth sy'n digwydd am y tro cyntaf yn hanes yr elusen. Bydd yr enillydd yn derbyn £1000 a phlac i gofio eu camp a chyflwynir y wobr iddynt yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Barnado's ar 12fed Hydref. Mae modd enwebu unrhyw grŵp neu unigolyn ar gyfer y wobr ar yr amod nad ydyn nhw'n gweithio i Barnado's. Bydd rhaid i unrhyw enwebeion fod wedi gweithio gyda phlant neu deuluoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond ar wahân i hynny nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all wneud cais. Gall prosiect neu sefydliad enwebu gwirfoddolwr neu aelod staff cyflogedig neu i'r gwrthwyneb, efallai y bydd person am enwebu prosiect penodol. Gallwch hyd yn oed eich enwebu eich hun os dymunwch! Mae'r cyfnod enwebu wedi cychwyn, a bydd yn cau ar 31ain Gorffennaf cyn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref. Bydd panel o feirniaid yn didoli'r ffurflenni. Daw'r beirniaid o Barnado's a chynrychiolwyr Ymddiriedolaeth Gristnogol Marsh a byddan nhw'n penderfynu pwy wnaeth y cyfraniad mwyaf eithriadol wrth weithio gyda phlant a theuluoedd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Barnado's, fan hyn. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.