| Llywodraeth Mecsico'n gwahardd bwyd sothach mewn ysgolion |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| WEDNESDAY, 28 JULY 2010 15:48 |
|
Mae llywodraeth Mecsico'n mynd i wahardd bwyd sothach a bwyd wedi'i ffrïo mewn ysgolion cynradd ac uwchradd mewn ymdrech i fynd i'r afael ag un o'r problemau gordewdra gwaethaf yn y byd. O gychwyn y flwyddyn ysgol nesaf, ni fydd siopau ysgolion bellach yn cael gwerthu diodydd swigod, sudd ffrwythau llawn siwgr, byrbrydau wedi'u prosesu, neu ddanteithion mwy lleol fel melysion wedi'u trwytho mewn chilli. Ac ni fydd ceginau ysgolion yn cynnig bwydydd traddodiadol fel tacos wedi'u ffrïo. "Bydd y plant yn cwyno, wrth gwrs," meddai'r gweinidog addysg Alonso Lujambio. "Rydyn ni'n mynd i gychwyn newid diwylliannol enfawr." Nid yw'r gwaharddiad yn effeithio ar werthwyr bwyd sothach sy'n ymgasglu wrth gatiau'r ysgolion ar ddiwedd y dydd, er bod Lujambio wedi addo ymdrechu yn y dyfodol i'w hannog i werthu nwyddau iachach. Mae swyddogion cyhoeddus yn cyfeirio at blant Mecsico fel y plant tewaf yn y byd ac felly lansiodd yr Arlywydd Felipe Calderon ymgyrch gwrth-ordewdra ym mis Ionawr. Er bod y ffigurau cymharol yn amheus, daeth un astudiaeth i'r canlyniad bod 26% o blant rhwng 5 ac 11 oed dros eu pwysau. Mae canran yr oedolion sydd dros eu pwysau'n agosáu at ganran yr Unol Daleithiau. Dywedodd Jose Angel Cordoba, y gweinidog iechyd, fod lefel bwyta ffrwythau a llysiau wedi gostwng 40% dros y 15 mlynedd diwethaf a bod lefel yfed diodydd wedi'u melysu wedi codi 50% Caiff dibyniaeth ar fwyd sothach ei gymhlethu gan gyfraddau ymarfer corff yn gostwng, wedi'i achosi'n rhannol gan drefoli anhrefnus sy'n prysur guddio'r mannau agored. Mae gan lawer o bobl Mecsico dueddfryd genetig i storio braster, yn ogystal ag i ddatblygu diabetes. Mae'r rhuthr tuag at fwyta afiach hefyd i'w weld mewn ardaloedd gwledig lle canfu arolwg diweddar mewn pentrefi brodorol arunig nifer o famau fyddai'n prynu bwyd sothach yn drêt i'w plant ar ôl casglu arian gwrthdlodi sy'n cael ei roi iddynt gan y llywodraeth. Daw'r gwaharddiad ysgolion ar ôl blynyddoedd o wrthwynebiad gan gorfforaethau megis Coca Cola a Pepsi. Rhoddodd Lujambio ganmoliaeth i'r ysbryd cydweithredol newydd, gan sôn am eu harall-gyfeirio at nwyddau iachach, yn cynnwys dŵr potel sy'n cynnig elw enfawr mewn gwlad lle nad oes llawer yn ymddiried yn y dŵr tap. "Ein gobaith yw y bydd plant yn dechrau mynnu cael gwahanol fathau o gynnyrch," meddai. |
No current events.