Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Silicon Valley yn arwain unwaith eto
Silicon Valley yn arwain unwaith eto PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
WEDNESDAY, 28 JULY 2010 15:50

Silicon Valley, heb amheuaeth arweinydd y chwyldro technoleg, yn ceisio ychwanegu acolâd newydd i'w enw da drwy ddod yn arweinydd y frwydr yn erbyn gordewdra sy'n cael ei achosi gan fwydydd cyflym.

Mae swyddogion etholedig yn Sir Santa ClaraSanta Clara County, yr ardal i'r de o San Francisco sy'n cynnwys y rhan fwyaf oSilicon Valley, wedi cyflwyno cyfraith sy'n rhwystro bwytai rhag cynnig teganau gydag unrhyw brydau bwyd i blant sy'n methu â chwrdd â meini prawf iechyd cenedlaethol.

Mewn geiriau eraill, mae'n amen ar y Pryd Hapus. Credir mai dyma'r gyfraith gyntaf o'i math yn y byd.

Mae Dyffryn Silicon eisoes ar flaen y gad yn y chwyldro bwyd yn yr US. Ddwy flynedd yn ôl, daeth yn un o'r ardaloedd cyntaf i orfodi cadwyni bwyd i ddangos cyfanswm calorïau pob pryd ar fwydlenni a hysbysfyrddau, symudiad gafodd ei efelychu mewn ardaloedd eraill, yn cynnwys New York City.

Nawr mae ei fwrdd arolygwyr, sy'n cyfateb i gyngor lleol yn y DU, wedi mynd ati i ymestyn y frwydr gyda gordewdra plant drwy wahardd system sy'n gwobrwyo plant am fwyta bwyd afiach. Dywedodd Ken Yeager, yr arolygwr a ddyfeisiodd y gwaharddiad, wrth y San Fransisco Chronicle, mai'r amcan oedd "torri'r cysylltiad rhwng bwyd afiach a gwobrau".

"Yn amlwg, nid yw teganau ynddynt eu hunain yn gwneud plant yn ordew. Ond mae'n annheg i rieni a phlant i ddefnyddio teganau i ddenu chwaeth plant ifanc a'u cael yn ddibynnol ar fwydydd llawn siwgr a braster yn gynnar yn eu bywydau."

Mae'r prydau wedi dod yn rhan hanfodol o gadwyni bwyd cyflym, gan esgor ar ddiwydiant cyfan o deganau plastig. Mae Animaniacs, y teganau Prydau Parod McDonald's o'r 1990au, cribau Ronald McDonald a thrysorau cudd Aladdin gan Burger King (1994) i gyd wedi dod yn eitemau casgliadwy ynddynt eu hunain bellach.

Cafwyd trafodaeth ddwy awr cyn pleidlais y bwrdd gyda thystiolaeth gan arbenigwyr iechyd yn ogystal a siopau bwydydd cyflym. Dywedodd McDonald's ei fod yn siomedig yn y gyfraith gan fod ei Brydau Hapus yn darparu maetholion pwysig i blant.

Dan delerau'r gwaharddiad, bydd bwytai'n cael dirwy o hyd at $1,000 (£659) am bob pryd a werthant gyda thegan, pe byddai'r pryd hwnnw'n cael ei farnu'n un afiach yn ôl safonau ffederal. Yn benodol, rhaid i'r prydau fod dan 485 calori gyda llai na 600mg o halen ac ni ddylai dros 35% o'u calorïau ddod drwy fraster neu 10% drwy felysyddion ychwanegol.

Mae gordewdra yn Santa Clara yn effeithio ar un o bob pedwar plentyn, o'i gymharu â llai nag un o bob pump yn genedlaethol. Yn yr US mae un o'r problemau gwaethaf o ran gordewdra yn y byd.

Mae mater gordewdra ymhlith plant yr Unol Daleithiau wedi cael ei amlygu dros yr wythnosau diwethaf gan y cogydd teledu, Jamie Oliver. Mae wedi mynd â'i ymgyrch i wella prydau bwyd ysgol Prydain ar draws yr Iwerydd i West Virginia, lle'r ystyrir y mae lefelau uchaf gordewdra ymhlith plant yn y wlad.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.