Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Dylai hysbysebion bwyd sothach gael eu gwahardd tan ar ôl y trothwy naw o'r gloch medd ymgyrchwyr
Dylai hysbysebion bwyd sothach gael eu gwahardd tan ar ôl y trothwy naw o'r gloch medd ymgyrchwyr PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
WEDNESDAY, 28 JULY 2010 15:51

Mae ymgyrchwyr iechyd wedi galw i gael hysbysebion am fwydydd brasterog wedi eu dangos ar ôl y trothwy naw o'r gloch ar ôl iddi ddod yn hysbys nad oedd cyfyngiadau blaenorol wedi bod mor llwyddiannus â'r gobaith.

Cafodd cyfyngiadau dadleuol eu cyflwyno yn 2007 oedd yn atal siopau a chwmnïau bwyd cyflym rhag hysbysebu yn ystod rhaglenni sy'n cael eu gwylio'n bennaf gan blant. Fod bynnag, golygai'r rheolau fod rhai bwydydd, megis y rhan fwyaf o rawnfwydydd, Marmite, caws, rhesins a mêl yn cael eu diffinio fel "sothach".

Ac er ei fod wedi atal hysbysebion yn ystod rhaglenni sydd wedi eu hanelu'n benodol at blant, nid oedd yn eu hatal yn ystod rhaglenni i oedolion sy'n boblogaidd ymysg llawer o blant, megis operâu sebon a sioeau talent.

Rhagwelodd Ofcom, y rheolydd darlledu, y byddai'r cyfyngiadau'n lleihau faint o hysbysebu bwyd sothach y byddai plant yn agored iddo o 41 y cant. Fodd bynnag, mewn astudiaeth oedd yn dadansoddi'r cyfyngiadau dair blynedd ar ôl eu cyflwyno, gwelwyd fod y lleihad yn llai na hyn, sef 37 y cant, ac i blant hŷn dim ond 22 y cant oedd y gostyngiad.

Dangosodd astudiaeth Ofcom hefyd fod ychydig dros hanner amser gwylio plant yn digwydd yn ystod oriau darlledu i oedolion.

Meddai Peter Hollins, Prif Weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon: "Mae gwahardd hysbysebion bwyd sothach yn ystod rhaglenni plant yn amlwg wedi cael rhyw effaith gadarnhaol. Ond gall y Llywodraeth fynd ymhellach - a dylai wneud hynny.

"Byddai gwaharddiad llwyr ar hysbysebu bwyd sothach cyn 9pm yn eu hamddiffyn yn well rhag dylanwad ymgyrchoedd hysbysebu slic tra'u bod yn dysgu sut i ddewis rhwng trêt a bwyd sy'n dda iddyn nhw."

Meddai Christine Haigh, o'r grŵp lobïo iechyd, Ymgyrch Bwyd Plant: "Rydyn ni'n gwybod fod marchnatwyr yn dod o hyd i ffyrdd mwy clyfar o hyd i dargedu plant drwy gyfryngau megis y rhyngrwyd. Os yw'r Llywodraeth Clymblaid o ddifrif am warchod plant rhag gormod o fasnacheiddio, yna mae angen cau'r bylchau hyn ar unwaith.

"Dengys y ffigurau y byddai trothwy naw o'r gloch yn ffordd fwy effeithiol o warchod plant."

Fodd bynnag, dywedodd hysbysebwyr a chwmnïau bwyd y byddai unrhyw waharddiad cyn y trothwy'n gorymateb yn llwyr.

Meddai Ian Barber, o'r Gymdeithas Hysbysebu: "Dywed adroddiad Ofcom yn glir fod rôl hysbysebu ar ordewdra yn ymylol. A dyna pam y mae'n argymell fod y rheoliadau presennol yn gymesur.

"Mae unrhyw waharddiad trothwy mewn perygl o gyfyngu ar ddewisiadau i oedolion, nid i blant."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.