| Portffolio ar y we o arfer da'r trydydd sector o fewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| WEDNESDAY, 28 JULY 2010 15:53 |
|
Mae WCVA'n cynhyrchu portffolio ar y we o arfer da'r trydydd sector o fewn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles. Drwy'r portffolio hwn eu nod yw cryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o ddarpariaeth gwasanaeth y trydydd sector ymhlith gwneuthurwyr polisi, cynllunwyr a darparwyr gwasanaethau a dathlu gallu'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Maen nhw'n awr yn gofyn am enghreifftiau o arfer da o fewn y trydydd sector ac yn gobeithio y byddwch chi'n gallu cymryd rhan. Os yw'ch sefydliad, neu sefydliad yn eich ardal, wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddarparu gwasanaeth, wrth gydweithio gyda sefydliadau eraill i gynhyrchu gwasanaeth 'cydgyslltiedig', neu wedi darparu gwerth ychwanegol, yna maen nhw am glywed gennych chi. Maen nhw'n ystyried pob enghraifft ym maes gwasanaethau Iechyd, Gofal Cymdeithasol neu Les, ond gallwch ddefnyddio'r categorïau isod fel canllaw ar gyfer syniadau i'w cynnig:
Mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn enghreifftiau lle mae modd adnabod cyd-gynllunio a chyd-ddarparu a sut y mae manteision darparu gwasanaethau trydydd sector yn cynnwys ei allu i wneud y canlynol:
Mae'r ymateb i'r portffolio arfer da gan y trydydd sector eisoes wedi bod yn gryf iawn. O ganlyniad, er mwyn dethol yn deg o blith yr enghreifftiau, gofynnir i'ch sefydliad lenwi'r holiadur cychwynnol atodedig. Ar hyn o bryd, dim ond ychydig frawddegau sydd eu hangen i ateb y cwestiynau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau pellach, neu os am gael help i lenwi holiadur, neu am gael holiadur mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch unrhyw ohebiaeth at: Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. .
|
No current events.