|
Gallai rhieni sy'n methu helpu plentyn gordew i fwyta ac i ymarfer yn iawn, gan anwybyddu pob cyngor ac arweiniad, fod yn euog o esgeuluso, yn ôl arbenigwyr ar iechyd plant.
Dywed y Dr Russell Viner a'i gydweithwyr o Sefydliad Iechyd Plant UCL yn Llundain nad yw pwysau plentyn ynddo'i hun yn rheswm dros alw ar wasanaeth staff amddiffyn plant.
Ond mewn erthygl ar yr hyn y maen nhw'n ei dderbyn sy'n fater dadleuol, a gyhoeddwyd ar-lein gan y British Medical Journal, maen nhw'n awgrymu y gallai fod yn briodol ystyried y gofrestr amddiffyn plant os yw rhieni'n gyson yn methu â newid ffordd o fyw'r teulu ac yn gwrthod derbyn unrhyw gymorth allanol.
"Mae methiant rhieni i ddarparu triniaeth ddigonol i'w plant am salwch cronig (asthma, diabetes, epilepsi ac ati) yn rheswm sy'n cael ei dderbyn dros gofrestru ar y gofrestr amddiffyn plant am esgeuluso," ysgrifennant.
"Awgrymwn fod gordewdra mewn plant yn dod yn fater amddiffyn plant pan fydd rhieni'n ymddwyn mewn ffordd sy'n hyrwyddo methiant mewn triniaeth i blentyn sydd mewn perygl difrifol o ordewdra a phan mae'r rhieni neu'r gofalwyr yn deall beth sy'n ofynnol, ac yn cael eu helpu i gyfranogi yn y rhaglen driniaeth."
Gallai hynny gynnwys methu â chadw at apwyntiadau neu fethu cyd-weithio gyda staff gofal iechyd neu weithwyr proffesiynol eraill sydd eisiau helpu'r plentyn, meddant, neu "danseilio'n weithredol fentrau rheoli pwysau."
Dywedodd Viner ei bod hi'n anodd sefydlu pryd yr oedd gordewdra'n llithro i fod yn esgeuluso ac yn dod yn fater amddiffyn plant, gan fod y pwysau ar bawb i fwyta gormod ac i beidio ag ymarfer corff ddigon mor bwerus. Roedd y ffactorau hyn mor gryf nes ei bod hi'n "anodd iawn i rai rhieni atal eu plentyn rhag rhoi pwysau ymlaen ".
Soniodd hefyd am y cysylltiadau cryf rhwng bwyd, bwydo, gofalu a chariad. "Ac mae bwyta'n bleser ac rydych eisiau rhoi pleser i'ch plant."
Aeth Viner a'i gydweithwyr ati i adolygu'r dystiolaeth dros unrhyw gysylltiad rhwng gordewdra plant ac esgeuluso gan nad oes canllawiau swyddogol ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Daethant ar draws tystiolaeth gynyddol yn cysylltu gordewdra'r glasoed ac oedolion gyda chamdriniaeth rywiol, trais ac esgeuluso plant, ond ni chafodd unrhyw astudiaethau eu canfod yn edrych ar y berthynas rhwng camau amddiffyn plant a gordewdra plant.
"Efallai na fydd cymryd plant oddi wrth eu rhieni'n helpu gordewdra. Ychydig o ddata sydd ar gael ar bwysau plant sy'n derbyn gofal cyhoeddus," meddant. Canfu astudiaeth ddiweddar fod 37% o blant sy'n derbyn gofal dros eu pwysau neu'n ordew - ond roedd bron pob un ohonyn nhw wedi magu pwysau ar ôl cael eu rhoi mewn gofal.
Dywed Viner a'i gydweithwyr yn eu papur y bydd pryderon neilltuol os yw gordewdra'n rhoi plentyn mewn perygl o glefydau, megis pwysau gwaed uchel neu ddiabetes. Cyn rhoi plentyn ar y gofrestr, fodd bynnag, byddai'n rhaid cael tystiolaeth glir a gwrthrychol dros gyfnod parhaus i ddangos nad oedd y rhieni'n cydymffurfio â chynllun triniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth dda, meddant.
Fel arfer, dim ond un o blith nifer o ffactorau sy'n achosi pryder fydd gordewdra, meddant, ynghyd â phresenoldeb gwael yn yr ysgol, bod yn agored i drais neu gymryd rhan ynddo, esgeulustod, hylendid gwael, problemau iechyd meddwl gan y rhieni ac anawsterau emosiynol neu ymddygiadol.
"Fel ym mhob maes iechyd plant, mae gennym ddyletswydd i fod yn agored i'r posibilrwydd o esgeulustod neu gamdriniaeth ar unrhyw ffurf," ysgrifennant. Dywedant hefyd bod angen taer am ganllawiau i weithwyr proffesiynol ac am ragor o ymchwil.
Felly beth yw'ch barn chi? Ydy hi'n ddilys awgrymu fod peidio â helpu plentyn gordew'n ddigonol yn esgeuluso? Neu ydy'r arbenigwyr yn bod ychydig yn rhy ysgubol gyda'u datganiadau? Rhowch wybod i ni a byddwn yn ysgrifennu rhywbeth am eich barn chi.
|