|
Gall dim ond pum munud o ymarfer mewn "gofod gwyrdd" fel parc roi hwb i iechyd meddwl yn ôl ymchwilwyr.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos fod cyfuno gweithgareddau megis cerdded neu feicio gyda natur yn hybu lles.
Yn y dadansoddiad diweddaraf yn y DU edrychodd ymchwilwyr ar dystiolaeth gan 1,250 o bobl mewn 10 astudiaeth a chanfod gwelliannau cyflym mewn hwyliau a hunan-barch.
Awgrymodd yr astudiaeth yn yr Environmental Science and Technology Journal fod yr effaith gryfaf ar bobl ifanc.
Edrychodd yr ymchwil ar lawer o wahanol weithgareddau awyr agored yn cynnwys cerdded, garddio, beicio, pysgota, hwylio, marchogaeth a ffermio mewn lleoliadau fel parciau, gerddi neu lwybrau natur.
Roedd yr effaith fwyaf i'w gweld o fewn dim ond pum munud.
Canfu'r astudiaeth fod cyfnodau hirach o ymarfer mewn amgylchedd gwyrdd, yn arwain at effeithiau cadarnhaol cwbl amlwg ond llai eu maint cymharol.
Wrth edrych ar ddynion a menywod o wahanol oed, canfu'r ymchwilwyr fod y newidiadau mewn iechyd - corfforol a meddyliol - yn arbennig o gryf ymhlith yr ifanc a'r rhai â salwch meddwl.
Gwelwyd effaith fwy gydag ymarfer mewn ardal oedd hefyd yn cynnwys dŵr - megis llyn neu afon.
Dywedodd arweinydd yr astudiaeth, Jules Pretty, ymchwilydd ym Mhrifysgol Essex, y byddai'r rhai oedd ar y cyfan yn llonydd, neu dan straen, neu'n dioddef salwch meddwl, yn debygol o elwa fwyaf o "ymarfer gwyrdd".
"Gallai cyflogwyr, er enghraifft, annog staff mewn gweithleoedd straenus i fynd am dro byr amser cinio i'r parc agosaf er mwyn gwella iechyd meddwl."
Dywedodd hefyd y gallai rhaglenni ymarfer yn yr awyr agored hefyd fod o fudd i droseddwyr ifanc.
"Mae'r ffaith fod argymhellion polisi ar weithgaredd corfforol yn hawdd eu datgan ond yn anaml yn cael eu mabwysiadu'n eang yn her i lunwyr polisi."
Dywedodd Paul Farmer, prif weithredwr yr elusen iechyd meddwl Mind, fod yr ymchwil yn dystiolaeth bellach y gall hyd yn oed cyfnod byr o ymarfer gwyrdd ddarparu therapi rhad a di-gyffur i helpu i wella lles meddyliol.
"Mae'n bwysig i bobl sy'n dioddef iselder eu bod yn gallu cael yr opsiwn o amrywiaeth o driniaethau, a byddem yn hoffi gweld pob meddyg yn ystyried ymarfer fel triniaeth lle mae hynny'n briodol."
Mae Mind yn rhedeg cynllun grantiau ar gyfer prosiectau amgylcheddol lleol i helpu
|