| Cysylltiad rhwng bwlio a delwedd negyddol o'r corff a llai o ymarfer corff |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 08:50 |
|
Yn ôl canfyddiadau astudiaeth newydd, mae plant sy'n cael eu poeni am fod dros eu pwysau'n mynd yn fwy anfodlon â'u cyrff. Awgryma'r canlyniadau wedyn bod y plant hyn yn hyd yn oed llai tebygol wedyn i gychwyn ar unrhyw chwaraeon neu weithgaredd ymarfer corff. "Mae peth ymchwil sy'n awgrymu fod cael eu poeni am eu pwysau, i rai plant, yn gysylltiedig â lefelau is o weithgaredd corfforol egnïol," medd un o ymchwilwyr yr astudiaeth Timothy D. Nelson o Brifysgol Nebraska-Lincoln, gan ychwanegu y gallai'r anfodlonrwydd i ymarfer fod yn ganlyniad i ofni bod yn destun gwawd yn ystod y gweithgareddau. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar blant cyn eu harddegau, gan awgrymu mai dyna lle dylai ymyriadau gwrth-fwlio gychwyn. Meddai Nelson, "Mae gennym ni duedd i feddwl am lencyndod fel yr amser pan mae plant yn dod yn sensitif am ddelwedd eu corff, ond mae'n canfyddiadau ni'n awgrymu fod hadau anfodlonrwydd â'r corff yn cael eu hau'n llawer cynharach mewn gwirionedd," meddai Nelson, sy'n athro cynorthwyol mewn seicoleg. "Gall beirniadu pwysau, yn enwedig, gyfrannu tuag at broblemau sy'n mynd y tu hwnt i broblemau cyffredinol hunan barch." Cynhaliodd Nelson a'i gydweithwyr arolwg gyda 382 o fyfyrwyr ysgolion cyhoeddus gyda chyfartaledd oedran o bron 11. Fe gyfrifwyd mynegai mas y corff, y BMI, sy'n fesur o dewder y corff yn seiliedig ar daldra a phwysau. Nododd myfyrwyr ar raddfa 5 pwynt pa mor aml yr oeddent wedi cael eu poeni am eu pwysau, a phoeni cyffredinol, o'r meithrin i'r presennol. Nododd plant hefyd maint eu corff ar hyn o bryd a'u maint delfrydol ar raddfa llun o saith rhif yn amrywio o 1 (tenau iawn) i 7 (gordew iawn). Roedd ieuenctid cyn yr arddegau oedd wedi dioddef cael eu poeni am eu pwysau'n tueddu i farnu eu cyrff yn fwy llym ac yn llai bodlon am eu cyrff na myfyrwyr nad oedd yn cael eu poeni am eu pwysau. Ond efallai y byddai disgwyl i blant dros eu pwysau gael eu poeni'n fwy (fel y mae ymchwil wedi'i ddangos) a bod â meddyliau mwy negyddol am eu cyrff na phlant tenau, beth bynnag am y gwatwar. I ganfod faint o'r canfyddiad am eu corff oedd yn ganlyniad i fwlio am eu pwysau, tynnodd yr ymchwilwyr BMI y myfyrwyr yn ystadegol o'r hafaliad. Roedd y canlyniadau'r un fath. "Mewn geiriau eraill, roedd plant cyn-llencyndod oedd yn cael eu poeni am eu pwysau'n gweld eu hunain yn fwy ac roedden nhw'n fwy anfodlon gyda maint eu corff na phlant nad oeddent yn cael eu poeni, hyd yn oed ar ôl i ni gyfrif am eu maint," meddai Nelson wrth LiveScience. Er mwyn rhoi terfyn ar y poeni hwn sy'n ffocysu ar bwysau, awgrymodd yr ymchwilwyr bod rhaglenni ymyrryd yn cynnwys helpu dioddefwyr i ddatblygu strategaethau ymdopi. Mae manylion yr ymchwil ar gael yn y Journal of Pediatric Psychology. |
No current events.