| Y gwir am 12 o fythau iached |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 08:52 |
|
Mae nifer o fythau a dywediadau a choelion gwrach am yr hyn y dylech ei wneud ac na ddylech ei wneud gyda bwyd a'ch iechyd. Dyma ambell un - efallai y byddwch wedi clywed amdanynt - a'r gwir y tu cefn iddynt. Ddylech chi ddim torri'r crwstyn oddi ar y bara. Mae'n llawn fitaminau. Dyma'r gwirionedd: Mewn astudiaeth yn yr Almaen yn 2002, canfu ymchwilwyr fod y broses o bobi bara yn cynhyrchu gwrthocsidydd o fath newydd sy'n brwydro canser a bod wyth gwaith yn fwy o hwn i'w gael yn y crwstyn nag yn y briwsion. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig gweini bara gwenith cyflawn, gyda'r crwstyn neu hebddo, gan ei fod yn uwch o ran maetholion megisffibr,medd y maethegydd Keri Glassman. Gwnewch yn siŵr fod y cynhwysion yn rhestru "blawd 100% gwenith cyflawn." Mae bara sydd â'r label "gwenith" fel arfer wedi'i wneud gyda chymysgedd o flawd gwyn wedi'i gyfoethogi ablawd gwenith cyflawn ac mae llaioffibr ynddo. Os ewch chi allan â'ch gwallt yn wlyb, byddwch yn cael annwyd. Dyma'r gwirionedd: Fe fyddwch chi'n teimlo'n oer, ond fydd eich iechyd ddim yn dioddef, medd y paediatregyddJim Sears. Mae'n dyfynnu o astudiaeth gafodd ei chynnal yn yr Uned Ymchwil i Anwydau yn Salisbury, Lloegr, lle cafodd grŵp o wirfoddolwyr eu brechu gyda firws annwyd i fyny eu trwyn. Arhosodd hanner y grŵp mewn ystafell gynnes gyda'r hanner arall yn cael bath a sefyll yn dripian mewn cyntedd am hanner awr cyn gwisgo, ond yn gwisgo sanau gwlyb am rai oriau eto. Wnaeth y grŵp gwlyb ddim dal mwy o anwydau na'r grŵp sych. Casgliad Sears oedd: "Dydy teimlo'n oer ddim yn effeithio ar eich system imiwnedd." Os byddwch chi'n gwneud llygaid croes, byddan nhw'n aros felly. Dyma'r gwirionedd: "Does dim drwg mewn croesi llygaid yn fwriadol," medd W Walker Motley, athro cynorthwyol mewn offthalmoleg yng Ngholeg Meddygol Prifysgol Cincinnati. Ond os sylwch bod eich plentyn yn gwneud hyn yn aml iawn (pan nad yw yn dynwared cymeriad cartŵn), efallai fod ganddo broblemau golwg eraill. Dylech fwydo annwyd a llwgu twymyn. Dyma'r gwirionedd: Gyda'r ddau fath o salwch, dylech fwyta ac yfed, ac yna yfed hyd yn oed mwy. "Aros yn hydradol yw'r peth mwyaf pwysig, gan eich bod yn colli llawer o hylif pan fyddwch chi'n sâl," medd Sears, gan ychwanegu nad oes angen yfed diodydd arbennig sy'n cynnwys electrolytau (tebyg i Gatorade) oni bai eich bod yn ddifrifol o ddadhydredig yn dilyn chwydu neu ddolur rydd. Mae gwm cnoi yn aros yn eich stumog am saith mlynedd. Dyma'r gwirionedd: Fydd Hubba Bubba eich plentyn ddim yn aros o gwmpas nes ei fod yn gadael yr ysgol uwchradd! "Fel gyda'r rhan fwyaf o bethau mae plant yn eu llyncu nad ydynt yn fwyd, mae hylifau'n cario'r gwm drwy'r coluddyn, ac o fewn dyddiau mae'n cael ei basio," medd David Pollack, uwch feddyg yn Ysbyty Plant Rhwydwaith Gofal Philadelphia. Ac er nad yw gwm yn cael ei dorri i lawr yn hawdd yn y system dreulio, mae'n debyg na fydd yn achosi poen stumog chwaith. Mae afal y dydd yn cadw'r meddyg draw. Dyma'r gwirionedd: Bydd llond dwrn o lus yn cadw'r meddyg draw yn fwy effeithiol. Mae llus yn drysor o ran maeth, yn llawn gwrthocsidyddion a ffibr, ac maen nhw hefyd yn hawdd eu hychwanegu at rawnfwyd ac iogwrt. Wedi dweud hynny, mae bwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau'n bwysig i atal llawer o afiechydon cronig, megis clefyd y galon, pwysau gwaed uchel, a diabetes. Rydych yn colli 75 y cant o wres eich corff drwy'ch pen. Dyma'r gwirionedd: "Mae'n debygol i'r dywediad hwn gael ei selio ar faint pen babi, sy'n ganran llawer uwch o'r corff cyfan na phen oedolyn," medd Pollack. Dyna pam ei bod hi'n bwysig gwneud yn siŵr fod pen babi'n cael ei orchuddio mewn tywydd oer. (Mae hyn hefyd yn esbonio'r capiau hollbresennol yna i fabanod newyddanedig mewn ysbytai). Ond i oedolyn, mae'r ffigur yn debycach i 10 y cant. A chofiwch fod gwres yn dianc o unrhyw ardal sydd heb ei orchuddio (traed, breichiau, dwylo), felly nid yw gwisgo het yn bwysicach na gwisgo menig. I gael gwared ar yr igian, rhaid i rywun roi braw i chi. Dyma'r gwirionedd: Nid yw'r rhan fwyaf o ddulliau cartref, fel dal eich gwynt neu yfed gwydraid o ddŵr o'r ochr arall, wedi cael eu profi'n feddygol yn ddulliau effeithiol, medd Pollack. Fodd bynnag, gallwch roi troi ar y dull hwn sy'n dyddio o 1971, pan gafodd ei gyhoeddi yn y New England Journal of Medicine: Llyncwch un llond llwy de o siwgr gwyn gronynnog. Yn ôl yr astudiaeth, llwyddodd y dull hwn i atal yr igian mewn 19 allan o 20 claf oedd wedi'u heffeithio. Sweet. Mae bwyta pysgod yn eich gwneud yn glyfar. Dyma'r gwirionedd: I blant hyd at dair neu bedair oed, mae hyn yn wir. Mae pysgod, yn enwedig rhai olewog fel eog, yn llawn o asidau brasterog omega-3, yn cynnwys DHA (asid docosahecsaeonig). "Mae DHA yn llesol dros ben yn nwy flynedd cyntaf plentyn ar gyfer datblygiad yr ymennydd, gwybyddiaeth a chraffter gweledol," medd y paediatregydd Scott W Cohen. A dangosodd astudiaeth yn 2008 ar Baediatreg Clinigol gynnydd mewn geirfa a dealltwrieath mewn plant pedair oed oedd yn derbyn ychwanegion DHA dyddiol. Opsiynau Omega-3 i rai sy'n casau pysgod? Gallech drïo afocados, cnau Ffrengig ac olew canola. Ddylech chi ddim nofio am awr ar ôl bwyta. Dyma'r gwirionedd: Mwynhewch yn y dŵr. "Ar ôl i chi fwyta, mae mwy o waed yn llifo i'r system dreulio ac i ffwrdd o'r cyhyrau," medd Cohen. "Y gred oedd y byddai ymarfer corff yn egnïol yn syth ar ôl bwyta yn arwain at ddiffyg gwaed fyddai'n achosi i chi gael cramp a boddi." Ond fydd hynny ddim yn digwydd. Mae Sears yn cytuno: "Efallai na fydd gennych gymaint o egni i nofio'n egnïol, ond ddylai hynny ddim lleihau eich gallu i droedio'r dŵr neu i chwarae." Mae angen lluosfitamin dyddiol ar bob plentyn. Dyma'r gwirionedd: Dylai plant sydd yn cael eu bwydo o'r fron yn unig yn ystod eu blwyddyn gyntaf dderbyn ychwanegyn fitamin D. Ar ôl hynny, fydd lluosfitamin ddim yn gwneud drwg i neb, ond dywed llawer o arbenigwyr nad oes angen gwirioneddol am hyn hyd yn oed os yw'ch plentyn yn mynd drwy gyfnod o fod yn ffwdanus am ei fwyd. "Mae hyd yn oed plant sy'n eithriadol ffwdanus am eu bwyd yn tyfu'n normal," medd Cohen. "Yn y pen draw bydd eich plant yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw, hyd yn oed os yw'n ymddangos eu bod yn bodoli ar awyr iach a phelydrau'r haul." Bydd llaeth twym yn eich helpu i fynd i gysgu. Dyma'r gwirionedd: Mae ychydig o dryptoffan mewn llaeth (yr un asid amino ag sydd mewn twrci), "ond byddai'n rhaid i chi yfed galwyni ohono i gael unrhyw effaith cysgadurus," medd Michael Breus, seicolegydd clinigol yn Scottsdale, Arizona, sy'n arbenigo mewn anhwylderau cysgu. "Yr hyn sy'n effeithiol yw cael trefn sy'n helpu plant i ymdawelu," meddai. Ac os yw cwpanaid o laeth twym yn rhan o'r broses, gall gael effaith plasebo, waeth beth yw'r esboniad gwyddonol. Ffynhonnell realsimple.com |
No current events.