| Mewn 14 mlynedd mae’r Unol Daleithiau wedi gweld cynnydd mewn lefelau gordewdra sy’n achos pryder |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 09:07 |
|
Edrychwch ar y darlun isod i weld sut mae lefelau gordewdra yn yr Unol Daleithiau wedi cynyddu mewn dim ond 14 mlynedd.
Nid yw 14 mlynedd yn gyfnod hir mewn gwirionedd ac mae hwn yn dangos yn union faint o broblem yw gordewdra erbyn hyn. Mewn rhai taleithiau mae canran gordewdra wedi mwy na dyblu. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn problemau eraill sy’n gysylltiedig â gordewdra megis clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2, strociau, canserau a nifer o bethau eraill. Yn amlwg, canlyniadau’r Unol Daleithiau’n unig yw’r rhain felly nid yw hi’n eglur a yw’r DU wedi dangos cynnydd tebyg, ond nid yw hi’n gyfrinach fod maint pobl yn cynyddu. Mewn blog gan yr awdur Kaid Benfield, mae’n awgrymu fod gan y cynnydd mewn lefelau gordewdra lai i’w wneud â’r hyn mae pobl yn ei fwyta na’r amgylchedd o’u cwmpas a’r ffordd y mae’n dod yn llai addas ar gyfer cadw’n ffit ac yn iach. Mae Benfield hefyd beirniadu’r gymdeithas (neu’r mwyafrif ohoni beth bynnag) am fod yn rhy oddefol i’r newid amgylcheddol a chymdeithasol hwn ac mae’n amlinellu ei rwystredigaeth am ddiffyg gweithredu gan y rhai yn y sector iechyd y cyhoedd. I ddarllen rhagor gan Benfield, cliciwch yma. |
No current events.