| Yr Unol Daleithiau’n lansio rhaglenni ymchwil i atal gordewdra mewn plant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 09:10 |
|
Mae dwy raglen ymchwil fawr fydd yn edrych ar ffyrdd o atal a thrin gordewdra mewn plant wedi cael eu lansio gan Sefydliadau Iechyd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau. "Mae gordewdra mewn plant yn bryder mawr o ran iechyd y cyhoedd. Os na fyddwn ni’n ffrwyno’r broblem eang hon, bydd ein gwlad yn gweld cynnydd sylweddol mewn clefydau cardiofasgwlaidd a phroblemau iechyd eraill yn y blynyddoedd o’n blaenau.” meddai Dr Susan B Shurin, cyfarwyddwr dros dro Sefydliad Calon, Ysgyfaint a Gwaed Cenedlaethol yr Unol Daleithiau (NHLBI) mewn datganiad i’r wasg gan yr asiantaeth. “Plentyndod yw’r amser optimaidd i annog arferion iach y gall plant eu dilyn am weddill eu bywydau,” ychwanegodd. Yr NHLBI yw prif noddwr y ddwy raglen, cyfanswm o $72.5 miliwn. Bydd y rhaglen Ymchwil i Atal a Thrin Gordewdra mewn Plant yn datblygu ac yn profi strategaethau gwrth-gordewdra sy’n targedu lleoliadau yn y cartref, y gymuned ac o fewn gofal sylfaenol ar gyfer plant cyn ysgol sy’n byw mewn ardaloedd tlawd ac amrywiol o ran cefndir ethnig. Bydd hefyd yn edrych ar effeithiolrwydd triniaethau gordewdra yn y cartref neu’r ysgol ar blant dros bwysau neu ordew rhwng 7 a 14 oed. Bydd yr ail raglen yn gwerthuso ymdrechion presennol yn y gymuned i leihau gordewdra mewn plant mewn 300 o gymunedau ar draws y wlad ar gost o $23 miliwn. "Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cymunedau ar draws yr Unol Daleithiau wedi bod yn rhoi rhaglenni a pholisïau ar waith i annog bwyta’n iachach, i gynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgaredd corfforol, a chamau eraill i wrthdroi’r cyfraddau cynyddol o ordewdra mewn plant,” meddai Denise Simons-Morton, cyfarwyddwr Adran Cymhwyso Canfyddiadau Ymchwil NHLBI. "Bydd yr astudiaeth hon yn gwerthuso rhaglenni cymunedol o’r fath i benderfynu pa un ohonynt neu o’u cydrannau sy’n fwyaf addawol ar gyfer gwella ymddygiad iechyd perthynol i ordewdra mewn plant ac i wella eu pwysau,” esboniodd. |
No current events.