Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cynhadledd Ryngwladol y Gymdeithas Chwarae – galwad am grynodebau a chynigion
Cynhadledd Ryngwladol y Gymdeithas Chwarae – galwad am grynodebau a chynigion PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 09:11

Mae’r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol (IPA) yn apelio am grynodebau a chynigion i’w defnyddio ar gyfer eu deunawfed cynhadledd flynyddol.

Croesewir cyfraniadau gan ddisgyblaethau a chefndiroedd polisi sydd â diddordeb, neu sy’n effeithio ar, plant a phobl ifanc yn chwarae – er enghraifft, addysg, iechyd, darpariaeth chwarae a ieuenctid, therapi chwarae, dylunio a chynllunio trefol a thirlun.

Nod yr IPA yw creu dyfodol lle caiff chwarae ei werthfawrogi ac i gefnogi hawl pob plentyn i amser, rhyddid ac amgylchedd diogel.

Bydd y gynhadledd yn rhannu gyda chydweithwyr dystiolaeth o werth chwarae, tystiolaeth o werth darparu ar gyfer chwarae, a phrofiadau ac enghreifftiau o arfer da yn hyrwyddo a chefnogi chwarae plant.

Bydd nifer o siaradwyr yn y gynhadledd, yn cynnwys:

  • Brian Sutton Smith – cyhoeddiad ar fin dod allan, Play as Emotional Survival
  • Bob Hughes - Awdur Evolutionary Playwork and Reflective Analytic Practice
  • Wendy Russell a Stuart Lester – Awduron papur cysyniad yr IPA, Children's Right to Play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide
  • Sudeshna Chatterjee Phd – Ysgolhaig enwog a dylunydd trefol sy’n gweithio yn India, a golygydd y cylchgrawn Children, Youth and Environments 
  • Marc Bekoff – Arbenigwr ar ymddygiad anifeiliaid, ei gyhoeddiadau’n cynnwys: Animals at Play: Rules of the Game (llyfr arobryn i blant)

Cynhelir y gynhadledd o’r 4 i 7 Gorffennaf 2011 yng Nghaerdydd ond mae’r IPA yn apelio am gyfrannwyr nawr.

Mae modd cofrestru ar gyfer y gynhadledd nawr.

Rhaid i bob cynadleddwr a chyfrannwr gofrestru a thalu am le ar y gynhadledd drwy
wefan y gynhadledd
.

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.