| Ydych chi o ddifrif am gael hwyl? |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| MONDAY, 27 SEPTEMBER 2010 09:24 |
|
Ydych chi'n cofio'r dyn neis iawn ddaeth i'r gynhadledd ym mis Ionawr gyda blwch o bypedau a phob math o syniadau rhyfeddol? Phil Burton o Dynamix oedd hwnnw. Fe gafodd y fath argraff arnoch chi (roedden ni eisoes yn gwybod ei fod yn wych) nes i ni ofyn i Dynamix ddarparu gweithdai dilynol ar gyfer prosiectau. Mae gennym gyfanswm o 7 gweithdy i'w rhoi, felly bydd angen i chi ffurfio parau. Mae Caerffili a Chasnewydd eisoes wedi paru a chynhaliwyd y gweithdy cyntaf yn ystod yr haf, oedd yn llwyddiannus dros ben. Felly dewch ymlaen os hoffech gael gweithdy'n rhad ac am ddim gyda Dynamix, wedi'i deilwra i gwrdd ag anghenion eich prosiect. Cysylltwch â'ch rheolwr achos os hoffech wneud hyn a bydd yn eich helpu i wneud y trefniadau. Pwy yw Dynamix felly.... "I greu cymdeithas fwy teg drwy ddatblygu sgiliau pobl i Gymryd Rhan, i fod yn Gynhwysol, i Gydweithredu, i Chwarae ac ar gyfer Mentergarwch. Bydd yn gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant creadigol, ymgynghoriad, hwyluso a chyhoeddiadau fydd yn helpu pobl i archwilio materion difrifol mewn ffordd sy'n hwyl." Cydweithfa hyfforddiant creadigol yn Abertawe yw Dynamix, sy'n gweithio i gynyddu cyfranogiad pobl ym mhob maes sy'n bwysig iddyn nhw. Sefydlwyd Dynamix ym 1989 ac mae wedi ymgynghori ag ystod oedran o blant dan 5 oed i bensiynwyr, gan sicrhau fod eu barn yn cael ei chynrychioli'n gywir a'u bod yn cael amser gwych wrth i'r ymgynghori ddigwydd. Mae ganddynt 20mlynedd o brofiad yn rhedeg gwasanaethau ymgynghori cynhwysol ac mae hyn wedi rhoi amrywiaeth eang o ddulliau cyfranogi iddynt a gallant gyflwyno'r rhain fel gweithdai a chyrsiau hyfforddi, yn seiliedig ar y cyhoedduadau 'Participation: Spice it up'; 'Young Spice' (ar gyfer ymgynghori gyda rhai dan 11 oed); a 'Children's Rights: Spice 'em up!' Maen nhw'n gweithio ar hyd a lled y DU a thu hwnt, yn darparu gwaith i fudiadau cymunedol, elusennau, grwpiau ieuenctid, plant a'u teuluoedd, ysgolion, partneriaethau plant a phobl ifanc, cynghorau, Llywodraeth Cynulliad Cymru a llawer mwy. Am ragor o wybodaeth ewch i'w gwefan, www.dynamix.ltd.uk
|
No current events.