| Prydau bwyd plant mewn ysbytai'n rhy afiach yn ôl astudiaeth |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 26 OCTOBER 2010 15:45 |
|
Canfu ymchwil gan y Consensus Action on Salt and Health (Cash) y byddai 85 o'r 189 pryd bwyd ysbyty i blant a brofwyd yn cael eu hystyried yn rhy afiach i'w gweini mewn ysgolion dan y canllawiau presennol. Roedd lefelau halen a braster y prydau yn uwch na'r terfynau a gyflwynwyd yn 2008 ar gyfer prydau ysgol a bellach mae ymgyrchwyr eisiau i weinidogion gyflwyno canllawiau maetheg i brydau bwyd ysbytai. Dywedodd yr Adran Iechyd ei bod yn "bryderus" am y canfyddiadau. Canfu'r ymchwil hefyd y byddai un o bob tri o'r 451 pryd bwyd gafodd eu hastudio'n cael eu dosbarthu'n rhai "coch" o ran brasterau dirlawn neu halen, yn ôl cynllun labelu "goleuadau traffig" yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Canfuwyd fod pryd tikka masala cyw iâr a reis gafodd ei weini mewn ysbyty yn cynnwys 14 gwaith mwy o halen (2.2g) ac 8.5 gwaith mwy o fraster dirlawn (6g) na balti cyw iâr a llysiau gyda reis gafodd ei weini mewn ysgol. Roedd lasagne mewn ysbyty'n cynnwys bron chwe gwaith mwy o halen na lasagne gafodd ei weini mewn ysgolion, 3.2g o gymharu â 0.57g. Canfu'r ymchwilwyr fod pizza mewn ysbyty'n cynnwys bron dwywaith gymaint o halen â fersiwn mewn ysgol (2.43g o gymharu ag 1.35g y darn). Roedd pwdin sbwng taffi gludiog gyda chyflaith menyn hefyd chwe gwaith yn uwch o ran braster dirlawn na phwdin tebyg gaiff ei weini mewn ysgol (19g o gymharu â 3g y darn). Daw'r canfyddiadau o arolwg gafodd ei gynnal gan Cash a grŵp ymgyrchu Sustain, fu'n edrych ar gynnwys maethol prydau bwyd oedd yn cael eu darparu gan brif gyflenwyr bwyd ysbytai ar draws y DU. Yna fe fuon nhw'n eu cymharu gyda'r safonau maethol sydd wedi eu gosod ar gyfer ysgolion - sy'n nodi'r lefelau ar gyfer prydau bwyd penodol. Dywedodd yr Athro Graham McGregor, o Sefydliad Meddyginiaeth Ataliol Wolfson, a chadeirydd Cash: "Gyda phopeth a wyddwn am y perygl o blant yn datblygu pwysau gwaed uchel a chlefydau sy'n gysylltiedig â diet megis gordewdra, mae'n hanfodol ein bod yn cadw'r lefelau halen a braster dirlawn y maen nhw'n ei fwyta mor isel â phosibl, ond gan gadw'r bwyd yn flasus." Cyflwynodd y Llywodraeth ganllawiau maethol gorfodol i ysgolion yn 2008 i geisio gwneud yn siŵr fod plant yn derbyn y cymysgedd cywir o egni a maetholion yn eu cinio ysgol. Mae arolwg gan yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol eleni'n dangos fod mwy na dau o bob pum disgybl ysgol gynradd (41 y cant) bellach yn bwyta cinio ysgol, cynnydd o 2.1 y cant ers 2008-09. Mae'r AS Joan Walley'n credu y dylid cael safonau maethol cyfreithiol ar gyfer bwyd sy'n cael ei weini ym mhob sefydliad sector cyhoeddus fel ysbytai, cartrefi gofal, prifysgolion ac i'r lluoedd arfog - nid dim ond mewn ysgolion. Dywedodd: "Mae'n bwysig iawn bod plant yn cael bwyd y maen nhw'n ei hoffi yn yr ysbyty, ond rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ei fod yn faethlon ac yn iach iddyn nhw ei fwyta." Mae hi wedi cyflwyno mesur o flaen y Senedd ac mae'n dweud fod y cyfrifoldeb bellach ar y Llywodraeth i'w dderbyn. Meddai llefarydd ar ran yr Adran Iechyd: "Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd bwyd o ansawdd da i gleifion o bob oed, yn nhermau gwella eu hiechyd ac mewn perthynas â'u profiad o wasanaethau yn gyffredinol. "Mae cymhorthion ar gael i gefnogi arlwywyr wrth asesu cynnwys maethol prydau bwyd." |
No current events.