| Ymchwil yn honni nad ymarfer corff yw'r ateb i ordewdra |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 26 OCTOBER 2010 15:46 |
|
Mae ymchwilwyr yn honni na chaiff yr epidemig gordewdra ei atal drwy annog pobl i wneud mwy o ymarfer corff, achos does ganddyn nhw ddim digon o amser i'w sbario. Er mwyn cael argraff ar lefelau gordewdra, byddai'n rhaid i bobl sy'n ordew dros ben ymarfer am nifer o oriau bob dydd, meddent, a byddent yn ei chael hi'n haws i golli pwysau drwy fwyta llai. Gallai person gordew â BMI o 35 gyrraedd pwysau llawer mwy iach a BMI o 22 drwy leihau'r calorïau y maen nhw'n ei fwyta o draean. "Mae hynny'n gyfystyr ag ymarfer am tua phum awr y dydd. Dydy hynny ddim yn realistig," meddai'r Athro John Speakman o grŵp ymchwil Energetics ym Mhrifysgol Aberdeen. Canfu astudiaeth gan grŵp Speakman, yn wahanol i'r hyn sy'n cael ei gredu'n gyffredinol, nad yw ein bywydau wedi mynd yn fwy eisteddog dros y degawdau diwethaf. Mae gweithgaredd corfforol wedi aros yr un fath am o leia'r 25 mlynedd diwethaf, tra bod cyfraddau gordewdra wedi cynyddu'n enfawr. Ers 1985, mae'r dyn nodweddiadol ym Mhrydain wedi llosgi 1,380 calori'r dydd drwy wneud ymarfer corff, o'i gymharu â 950 o galorïau i fenywod. Mae'r hyn sy'n achosi'r cynnydd mewn gordewdra'n gysylltiedig â'r boblogaeth yn bwyta bwydydd â mwy o galorïau yn hytrach na gwneud llai o ymarfer corff, medd Speakman. "Mae hyrwyddo ymarfer corff yn syniad da, ond os ydych chi am fynd i'r afael ag epidemig gordewdra, nid dyma'r ateb. Nid yw colli pwysau'n un o fanteision allweddol ymarfer corff," meddai. Roedd peidio â bwyta brechdan fach mor effeithiol â mynd i redeg am awr, ychwanegodd. Mae tua chwarter o oedolion Prydain ac un o bob pum plentyn yn ordew ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu. Amcangyfrifir fod 30,000 o bobl yn marw'n gynamserol ar draws y wlad o afiechydon sy'n gysylltiedig â gordewdra bob blwyddyn. "Fedrwch chi ddim ymarfer eich ffordd allan o'r epidemig gordewdra. Byddai'n cymryd ymyriad enfawr mewn ymarfer corff," meddai Speakman. "Mae'n bwysig iawn bod llunwyr polisïau'n sylweddoli os ydyn nhw eisiau hyrwyddo colli pwysau gyda phobl ordrwm a gordew, y ffordd fwyaf effeithiol yw drwy ddiet a bwyta'n iach." Fodd bynnag, dywed yr adroddiad fod ymarfer corff yn gwarchod yn erbyn clefyd y galon, diabetes math 2, osteoporosis a phwysau gwaed uchel. |
No current events.