| Ymchwil newydd yn dangos fod canran uchel o Americanwyr gordew ddim yn credu eu bod yn rhy dew |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 29 OCTOBER 2010 08:59 |
|
Yn 2000-2002 cynhaliwyd arolwg ymysg dros 2,000 o drigolion Sir Dallas ac roedd 14 y cant o Americaniaid Affricanaidd ac 11 y cant o bobl Sbaenig – ond dim ond 2 y cant o'r gwynion – yn credu nad oedd angen iddyn nhw golli pwysau. Dyma ganfyddiad Dr. Tiffany M. Powell o Ganolfan Feddygol Prifysgol De Orllewin Texas yn Dallas. Roedd pobl oedd yn cam-ganfod maint eu corff yn hapusach gyda'u hiechyd, ac yn teimlo'n iachach, na'r rhai oedd yn sylweddoli eu bod yn ordew. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o gredu eu bod â risg isel o ddatblygu pwysau gwaed uchel neu ddiabetes neu o gael trawiad ar y galon yn ystod eu bywyd. Yn wir, roedd dwy ran o dair o bobl oedd yn cam-ganfod eu corff yn meddwl fod ganddyn nhw risg isel o fod yn ordew. Mae'r astudiaeth yn "arwyddo diffyg dealltwriaeth gwirioneddol am effeithiau gordewdra," meddai Powell. Ar yr un pryd, ychwanegodd "rydych chi'n troedio'n ofalus, achos dydych chi ddim o anghenraid eisiau i bobl gael delwedd corff afiach, ond rydych chi hefyd am i bobl ddeall bod angen iddyn nhw golli pwysau." Bu Powell a'i chydweithwyr yn ymchwilio camganfyddiad maint corff ymysg 2,056 o ddynion a menywod fu'n cymryd rhan yn Astudiaeth Calon Dallas. Roedd bob un ohonynt yn ordew, oedd yn golygu fod BMI pob un yn 30 neu'n uwch. Bu'r ymchwilwyr yn mesur canfyddiad corff y rhai fu'n cymryd rhan yn yr astudiaeth drwy ofyn iddyn nhw edrych ar gyfres o 9 ffigwr mewn rhes, o ffigwr tenau iawn i un gordew iawn gan ofyn iddyn nhw ddewis eu ffigwr delfrydol i ddechrau, ac yna i ddewis ffigwr oedd yn edrych yn debyg iddyn nhw. Cafodd y bobl oedd yn dewis siâp corff delfrydol oedd yr un fath neu'n fwy na maint gwirioneddol eu corff eu dosbarthu'n rhai oedd yn camganfod maint eu corff. Roedd wyth y cant o'r rhai fu'n cymryd rhan yn yr astudiaeth yn ystyried nad oedden nhw'n ordew. Canfu'r ymchwilwyr nad oedd pobl oedd wedi derbyn mwy o addysg neu rai ag incwm uwch yn fwy tebygol o ganfod eu pwysau'n gywir na phobl â llai o addysg neu rai oedd yn ennill llai o arian. Ond roedd gwahaniaethau mawr yn y modd yr oedd pobl oedd yn camganfod maint eu cyrff yn gweld eu peryglon iechyd eu hunain, er nad oedd eu peryglon iechyd mewn gwirionedd yn wahanol i bobl oedd yn canfod maint eu corff yn gywir – pethau fel pwysau gwaed uchel er enghraifft. Er enghraifft, roedd hanner ohonynt yn teimlo eu bod yn fwy iach na'r rhan fwyaf o bobl o'r un oed, o gymharu â thraean o'r bobl oedd yn canfod eu pwysau'n gywir. Roedd pedwar deg pedwar y cant heb weld meddyg yn y flwyddyn ddiwethaf, o gymharu â chwarter o'r rhai oedd yn canfod eu pwysau'n gywir. Pan oedd y "camganfyddwr" yn mynd i weld darparydd iechyd, roedden nhw'n llai tebygol o drafod eu diet, eu lefel gweithgaredd corfforol, neu a oedd angen iddyn nhw golli pwysau. Yn seiliedig ar y canfyddiadau, dywedodd Powell efallai y dylai meddygon gymryd cam yn ôl cyn trafod arferion ffordd o fyw gyda'u cleifion gordew, gan ofyn iddyn nhw gyntaf sut maen nhw'n canfod eu pwysau ac a ydyn nhw'n credu bod angen iddyn nhw golli pwysau. Y gwir amdani yw nad yw llawer o'r bobl hyn yn gweld meddyg o gwbl ac mae hyn yn ei gwneud hi'n bwysig i estyn allan atyn nhw yn y gymuned, ychwanegodd, er enghraifft mewn ffeiriau iechyd eglwysi. Yn ôl Powell, mae'n bosibl bod hunan-ganfyddiad yn newid gan fod bod yn ordrwm ac yn ordew'n dod cymaint mwy cyffredin. "Mae'r duedd yn bod os yw pawb o'ch cwmpas yn edrych rhyw ffordd arbennig, naill ai rydych chi eisiau edrych yr un fath neu rydych chi'n gyfforddus gyda'ch ymddangosiad fel y mae," meddai Powell. |
No current events.