| Y Llywodraeth am ymgynghori gyda chwmnïau bwydydd cyflym ar fyw yn iach |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 26 NOVEMBER 2010 11:30 |
|
Mae'r Adran Iechyd yn rhoi lle canolog i gwmnïau'r bwydydd cyflym McDonald's a KFC a chynhyrchwyr bwydydd a diodydd wedi'u prosesu fel PepsiCo, Kellog's, Unilever, Mars a Diageo, yn y gwaith o ysgrifennu polisïau'r llywodraeth ar ordewdra, alcohol a chlefydau sy'n gysylltiedig â diet. Mewn archwiliad o iechyd cyhoeddus mae'r ysgrifennydd iechyd, Andrew Lansley, wedi sefydlu pum rhwydwaith "bargen cyfrifoldeb" gyda busnesau, wedi'u cyd-gadeirio gan weinidogion er mwyn llunio polisïau. Dywed grwpiau ymgyrchu fod hyn yn debyg i drosglwyddo polisïau ysmygu i ddwylo'r diwydiant tybaco. Mae disgwyl i rai o'r rhain gael eu defnyddio yn y papur gwyn ar iechyd cyhoeddus sydd i'w gyhoeddi yn y mis nesaf. Mae'r grwpiau wedi'i dominyddu gan aelodau'r diwydiant bwyd ac alcohol, sydd wedi cael eu gwahodd i awgrymu mesurau i fynd i'r afael ag argyfyngau iechyd cyhoeddus. Mae grwpiau diddordeb cyhoeddus iechyd a chwsmeriaid yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn cynnwys Which? Cancer Research UK a'r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus. Pennaeth y grŵp lobïo Wine and Spirit Trade Association sy'n cadeirio'r rhwydwaith bargen cyfrifoldeb alcohol. Mae'r rhwydwaith bwyd i fynd i'r afael â phroblemau diet a iechyd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd wedi'i brosesu, cwmnïau bwydydd cyflym a Compas, y cwmni arlwyo gafodd ei feirniadu'n gyhoeddus gan Jamie Oliver am ei fwydlenni ysgol o fysedd twrci. Mae is-grŵp y fargen fwyd yn cael ei gadeirio gan PepsiCo, perchenogion creision Walkers. Mae gan y prif archfarchnadoedd bresenoldeb sydd yr un mor gryf, tra bod grŵp gweithgaredd corfforol y fargen cyfrifoldeb yn cael ei gadeirio gan y Fitness Industry Association, sef y grŵp lobïo ar gyfer campfeydd preifat a hyfforddwyr personol. Yn y cyfarfodydd cynnar, gwahoddwyd y partneriaid masnachol hyn i ddrafftio blaenoriaethau a nodi rhwystrau, megis deddfwriaeth yr UE, y bydden nhw'n hoffi eu gweld yn cael eu dileu. Maen nhw wedi cael sicrwydd gan Lansley ei fod eisiau edrych ar ddulliau gwirfoddol yn hytrach na rhai rheolaethol, a'i fod am eu cefnogi nhw wrth ddileu rhwystrau. Mae defnyddio prisiau bwyd neu alcohol i newid cymeriant wedi cael ei wrthod. Dywedwyd wrth un grŵp nad oedd yr adran iechyd eisiau arwain, ond yn hytrach ei fod eisiau clywed gan aelodau beth ddylai gael ei wneud. Dywedodd Syr Ian Gilmore, yr arbenigwr iau blaenllaw a llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon hyd yn ddiweddar, ei fod yn bryderus iawn am y pwyslais ar bartneriaethau gwirfoddol gyda diwydiant. Mae Glimore yn aelod o'r rhwydwaith bargen cyfrifoldeb alcohol, a dywedodd ei fod wedi penderfynu cydweithredu, ond roedd yn amau a fyddai modd cael "cydgyfeiriant ystyrlon rhwng buddiannau diwydiant a iechyd cyhoeddus gan mai blaenoriaeth y diwydiant diodydd oedd gwneud arian i'w gyfranddeiliaid tra bod iechyd cyhoeddus yn mynnu cael toriad mewn cymeriant". Meddai: "Heb os mae angen rheoleiddio prisiau gydag alcohol, argaeledd a marchnata ac mae perygl y bydd trafodaethau'n cael eu llywio i ffwrdd oddi wrth reoleiddio sy'n debygol o fod yn effeithiol ond fyddai'n effeithio ar werthiant. Gyda labelu bwyd, rydym wedi gwrando gormod ar yr archfarchnadoedd yn hytrach na mynd am oleuadau traffig [rhybuddion] y mae arbenigwyr iechyd yn eu hargymell." Mae cais i gyflogwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros gyflogedigion mewn pedwaredd fargen iechyd yn y gweithle. Cylch gorchwyl y pumed rhwydwaith yw newid ymddygiad a'r Fforwm Iechyd Cenedlaethol sy'n ei gadeirio. Mae'r grŵp yn debygol o weithio gyda'r uned mewnwelediad i ymddygiad newydd yn Swyddfa'r Cabinet sy'n edrych ar ffyrdd o wneud i bobl newid eu hymddygiad heb gyfreithiau newydd. Mae diwygiadau iechyd Lansley'n cael eu gweld fel achos brawf ar gyfer polisïau ehangach y Ceidwadwyr ar ddisodli ymyriad y wladwriaeth gyda gweithredu preifat a chorfforaethol. Tra bod grwpiau buddiannau'r cyhoedd yn cymryd rhan mewn llunio'r bargeinion, mae llawer wedi dadlau bod angen rheoleiddio cadarn i ddelio gyda chamddefnyddio bwyd sothach ac alcohol. Mae'r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, sy'n cael ei chynrychioli ar nifer o'r rhwydweithiau bargen, wedi galw am waharddiad ar draws-frasterai ac isafswm prisiau ar alcohol. Dywedodd yr Athro Lindsey Davies, llywydd yr FPH: "Rydym yn obeithiol y bydd creu cysylltiad gyda'r diwydiant bwyd yn arwain at newidiadau yn ansawdd a iachusrwydd y cynnyrch rydyn ni a'n plant yn eu bwyta. Mae'n bosibl i symud ymlaen gyda materion fel lleihau halen drwy gytundebau gwirfoddol, ac rydym yn cadw meddwl agored nes i ni weld beth ddaw allan o'r cyfarfodydd, ond rydym yn dal i feddwl fod lle ar gyfer rheoleiddio." Wrth ymateb i feirniadaeth fod diwydiant yn rhy amlwg yn y cynlluniau, dywedodd yr Adran Iechyd: "Rydyn ni mewn cysylltiad parhaus gyda chyrff arbenigol, yn cynnwys rhai yn y maes iechyd cyhoeddus, i helpu i hysbysu ein gwaith i gyd. Ar gyfer y papur gwyn arfaethedig ar iechyd cyhoeddus rydym wedi cynnwys amrywiaeth eang o bobl, fel yr ydym hefyd yn ei wneud i'n helpu i ddatblygu'r fargen cyfrifoldeb gyda busnesau, y sector gwirfoddol, sefydliadau anllywodraethol, llywodraeth leol, yn ogystal â chyrff iechyd cyhoeddus. Mae amrywiaeth o arbenigwyr gwahanol hefyd yn cymryd rhan." Ychwanegodd fod y llywodraeth eisiau gwella iechyd cyhoeddus drwy gytundebau gwirfoddol gyda busnesau a phartneriaid eraill, yn hytrach na thrwy reoleiddio neu ddarlithoedd o'r brig i lawr, gan ei fod yn credu y byddai'r dull hwn yn llawer mwy effeithiol ac uchelgeisiol nag ymdrechion blaenorol. Mae arbenigwyr eraill hefyd wedi mynegi pryder ynghylch dull Lansley. Mae'r Athro Tim Lang, aelod o bwyllgor ymgynghorol y llywodraeth ar ordewdra, yn amau gallu'r diwydiant bwyd a diod i reoleiddio ei hun. "O fewn iechyd cyhoeddus, nid yw record diwydiant wedi bod yn dda. "Mae gordewdra'n broblem systemig, ac mae diwydiant wedi'i gloi o fewn meddylfryd ei ddiddordebau cyfyng ei hun," medd Lang.
|
No current events.