|
Arbenigwyr yn datblygu ffreutur ysgol newydd |
|
|
|
|
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken
|
|
FRIDAY, 26 NOVEMBER 2010 11:32 |
|
Mae arbenigwyr yn yr Unol Daleithiau wedi datblygu patrwm ar gyfer ffreutur ysgol newydd ddylai, yn ddamcaniaethol, annog plant i fwyta'n iachach ac felly fynd i'r afael â gordewdra. Gwnaeth Brian Wansink a David R Just, sy'n ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cornell, gyfres o arbrofion mewn ysgolion yn yr Unol Daleithiau; maen nhw'n credu bod modd newid sut y mae plant yn dewis bwyd yn y ffreutur drwy ddefnyddio seicoleg ymddygiad tebyg i'r hyn y mae archfarchnadoedd yn ei ddefnyddio.
Prif argymhellion yr astudiaeth oedd:
- Symud y brocoli: roedd gosod bwydydd maethlon ar gychwyn y ciw cinio wedi cynyddu'r swm a brynwyd rhwng 10 a 15%.
- Lleihau maint powlenni o 18 owns i 14 owns: roedd hyn yn lleihau dogn cyfartalog grawnfwyd 24%.
- Annog defnyddio hambwrdd: roedd hyn yn cynyddu faint o lysiau oedd yn cael eu bwyta. Roedd myfyrwyr heb hambwrdd yn bwyta 21% yn llai o salad ond dim llai o hufen ia.
- Rhoi enwau mwy disgrifiadol i ddewisiadau iach: roedd defnyddio 'creamy corn' yn hytrach na 'corn' ar ei ben ei hun wedi cynyddu gwerthiant 27%.
- Cynnig dewis: Roedd myfyrwyr oedd yn cael dewis rhwng moron a seleri'n llawer mwy tebygol o fwyta eu llysiau na myfyrwyr oedd yn cael eu gorfodi i gymryd moron yn unig.
- Cuddio'r hufen ia: Roedd cadw'r hufen ia mewn rhewgell gyda chaead di-draidd wedi'i gau yn lleihau gwerthiant yn sylweddol.
- Gofyn ydyn nhw eisiau salad: pan oedd gweithwyr yn gofyn 'Ydych chi eisiau salad?', roedd gwerthiant wedi cynyddu traean.
- Creu ciw llwybr cyflym: roedd creu man talu 'llwybr cyflym' i fyfyrwyr nad oedd yn prynu pwdin a sglodion wedi dyblu gwerthiant brechdanau iach.
- Defnyddio powlenni ffrwythau: roedd rhoi afalau a gellyg mewn powlen ffrwythau yn hytrach na phadell dur gwrthstaen wedi mwy na dyblu gwerthiant.
- Symud y bar salad: roedd tynnu'r bar salad i ffwrdd o'r wal a'i osod o flaen y man talu wedi treblu gwerthiant bron iawn.
- Talu arian parod am bwdin: roedd gwrthod gadael i fyfyrwyr ddefnyddio talebau cinio i dalu am bwdin wedi eu harwain i brynu 71% yn fwy o ffrwythau a 55% yn llai o bwdinau.
Er mwyn gweld hyn i gyd wedi'i gyflwyno mewn graffigyn tlws ewch draw i wefan y Guardian fan hyn.
|