| Mae astudiaeth wedi canfod fod plant tew'n bwyta gwell diet na rhai teneuach yn eu dosbarth |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 26 NOVEMBER 2010 12:00 |
|
Mae plant dros bwysau'n aml yn bwyta'n fwy iach na'r aelodau teneuach o'u dosbarthiadau, yn ôl ymchwil sy'n awgrymi mai diffyg ymarfer corff, yn hytrach na diet o fwyd sothach, allai fod ar fai am ordewdra. Canfu astudiaeth ar 900 o ddisgyblion ysgol gynradd yn Norwy fod plant tew'n bwyta bwydydd iach - fel ffrwythau, llysiau, pysgod a bara brown yn ogystal â chaws a iogwrt calori isel - yn amlach na'u cyfoedion pwysau normal. Awgrymodd yr ymchwil nad yw diet da heb ymarfer corff, o bosib, yn ddigon i atal rhoi pwysau ymlaen. Mae canfyddiadau'r astudiaeth gan Goleg Prifysgol Telemark a Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Norwy yn cynrychioli'r cyfraniad diweddaraf i'r drafodaeth ynghylch ai diet neu ymarfer corff sydd fwyaf pwysig wrth frwydro gordewdra. Mae'n dilyn ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Medi awgrymodd mai diet oedd â'r dylanwad mwyaf ar bwysau. Bu academyddion yn monitro pwysau, lefelau ymarfer corff ac arferion bwyta 924 o blant naw a deg oed gan holi eu rhieni am eu ffyrdd o fyw eu hunain. Gofynnwyd i'r plant pa mor aml roedden nhw wedi bwyta amrywiaeth o fwyd, fel prif brydau a byrbrydau. Canfu'r astudiaeth fod plant tew'n yfed sudd yn amlach na'u cyfoedion pwysau normal, oedd yn rheolaidd yn yfed diodydd swigod ac yn bwytau bwydydd wedi'u prosesu fel byrgyrs, selsig, bisgedi, pizza a melysion. Awgrymodd yr ymchwilwyr ei bod hi'n bosib fod teuluoedd â phlant dros bwysau'n fwy ymwybodol o'r bwyd yr oedden nhw'n dewis ei fwyta na'r rhai sy'n llai pryderus ynghylch ennill ambell i bwys. Meddai'r Athro Anne Lise Brantsæter, o'r NIPH: "Mae'n bosibl fod rhieni a phlant yn pwysleisio dewisiadau bwyd iach. "Fodd bynnag, mae hi'n bwysig bod maint y bwydydd iach yn cael ei addasu i gyd-fynd â lefel gweithgaredd plentyn er mwyn cyfyngu ar ennill rhagor o bwysau. "Mae gordewdra'n broblem gynyddol all arwain at ganlyniadau anffodus i'r plant yn gorfforol ac yn feddyliol." Canfu'r ymchwilwyr hefyd fod plant dros bwysau'n fwy tebygol o fod â rhieni dros bwysau. Meddai'r Athro Brantsæter: "Mae llawer o ffactorau sy'n cyfrannu at ordewdra ac mae'n bwysig bod rhieni a phlant yn derbyn arweiniad a chefnogaeth dda yn gynnar." Daeth astudiaeth flaenorol, gan yr Athro John Speakman o Brifysgol Aberdeen, i gasgliad gwahanol, gan roi'r bai ar fwyta gormod o fwyd am y lefelau gordewdra cynyddol. Fe ganfu fod lefelau gweithgaredd corfforol cyffredinol wedi aros yr un fath am y chwarter canrif diwethaf tra bod lefelau pwysau wedi codi. Canfu ei ymchwil, a gyhoeddwyd ym mis Medi, fod dyn, ar gyfartaledd, yn llosgi 1,380 calori y dydd yn y 1980au, yr un fath â heddiw, a bod menywod yn defnyddio 950 calori. Y newid mawr yma yw'r calorïau sy'n cael eu bwyta bellach, sydd wedi cynyddu o leiaf draean i 3,500 calori y dydd, meddai. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.