Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Plant i dderbyn talebau siopa am gerdded i'r ysgol
Plant i dderbyn talebau siopa am gerdded i'r ysgol PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 10 DECEMBER 2010 16:05

Bydd plant yn derbyn talebau siopa am gerdded i'r ysgol yn ôl cynllun radical gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â gordewdra.

Dan y cynllun, ac fel rhan o bapur gwyn ar iechyd y cyhoedd, bydd plant yn derbyn talebau Topshop a thocynnau sinema am deithio i'r ysgol ar droed.

Bydd pob ysgol yn y wlad yn cael cynnig mynediad i dechnoleg fyddai'n caniatáu i blant ddefnyddio cardiau llithro i olrhain eu taith, er mwyn i'r pwyntiau gael eu cyfnewid am wobrau.

Mewn cynllun peilot sy'n cael ei gynnal yn Wimbledon, De Llundain, bydd merched yn eu harddegau'n derbyn taleb Topshop o £5 os byddan nhw'n cerdded i'r ysgol wyth gwaith, a thocyn sinema Odeon am bum taith, o fewn cyfnod penodol.

Mae'r fenter ddadleuol yn un o nifer o gynlluniau sy'n cael eu cefnogi mewn strategaeth fydd yn annog cynghorau a busnesau i ddod o hyd i ffyrdd mewn "creadigol" i wella iechyd y genedl.

Dywed gweinidogion fod eu hagwedd yn symudiad oddi wrth dactegau "gweinyddiaeth nani" y blaid Lafur oedd yn ceisio pregethu ar bobl i newid eu ffyrdd.

Yn hytrach, bydd ymdrechion i wella iechyd Prydain yn seiliedig ar ddamcaniaeth "pwtio", wedi'i ddyfeisio gan ddau economydd o'r UD, sy'n dweud mai gwobrau a phwysau cyfoedion yw'r dulliau gorai i atgoffa pobl i newid eu harferion gwael.

Pan oedd David Cameron yn yr wrthblaid, darllenodd y brig-lyfr Nudge, gan yr economydd o Ysgol Fusnes Chicago, Richard Thaler, a'r athro o Ysgol y Gyfraith yn Chicago, Cass Sunstein. Mae'r llyfr yn awgrymu sut i ddylanwadu ar ymddygiad pobl, a chafodd gymaint o argraff ar David Cameron nes iddo ofyn i holl aelodau cabinet yr wrthblaid ei ddarllen dros eu gwyliau haf.

Ers i'r Glymblaid gael ei ffurfio, mae Swyddfa'r Cabinet wedi sefydlu "tîm mewnwelediad i ymddygiad" - a lysenwyd yn "dîm Nudge".

Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd, Andrew Lansley, y byddai papur gwyn dydd Mawrth yn gosod allan "gynllun radical a chynhwysfawr" i ffocysu'r GIG ar fynd i'r afael ag iechyd gwael.

Dywedodd Mr Lansley fod y rhan fwyaf o bobl eisiau byw bywydau iach, ond y bydden nhw'n fwy tebygol o wneud hynny pe byddai ganddyn nhw'r wybodaeth gywir a gwobrau i'w cymell.

Meddai: "Elfen bwysig o hyn yw harneisio'r damcaniaethau diweddaraf mewn gwyddor ymddygiad...pwtio unigolion i'r cyfeiriad cywir ac annog dewisiadau positif".

Mae'r Llywodraeth wedi dweud ei bod am weithio gyda gwerthwyr bwyd ac alcohol i wella arferion y genedl, yn hytrach na chyflwyno cyfreithiau i reoleiddio eu nwyddau a'u marchnata.

Ond dywed y Papur Gwyn os bydd busnesau'n methu cwrdd â ffiniau amser i wneud newidiadau gwirfoddol, y bydd yn ystyried cyflwyno rheoliadau.

Mae'r cynllun peilot sy'n gwobrwyo plant am gerdded i'r ysgol wedi cael ei gyllido gan gynghorau lleol a darparwyr cludiant oedd eisiau gwella tagfeydd i fysiau lleol.

Rhoddwyd cerdyn llithro i blant ysgol uwchradd y bydden nhw'n eu cyffwrdd ar dderbynyddion ar hyd llwybrau cerdded swyddogol.

Canfu ymchwil ar brosiect Wimbledon fod yr awdurdod cludiant yn arbed £24 am bob £1 oedd yn cael ei wario ar y cynllun, a bod yr heddlu'n treulio 48% yn llai o amser yn delio gyda damweiniau o gwmpas arosfannau bysiau gor-brysur.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.