| Aeddfedrwydd rhywiol cynnar a gordewdra'n gysylltiedig mewn merched ifanc yn ôl ymchwil |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 10 DECEMBER 2010 16:08 |
|
Mae astudiaeth wedi dangos fod cysylltiad genetig rhwng aeddfedrwydd rhywiol cynnar a gordewdra mewn menywod. Daeth y canfyddiad ar ôl i wyddonwyr ym Mhrydain adnabod 30 genyn sy'n rheoli oedran cychwyn aeddfedrwydd rhywiol mewn merched. Mae'n hysbys fod pwysau'r corff yn gysylltiedig ag aeddfedrwydd rhywiol gyda merched yn cychwyn eu cylchred fisol unwaith y maen nhw'n cyrraedd tua chwe stôn. Mae merched sydd dros eu pwysau'n fwy tebygol o gychwyn eu cylchred yn gynnar. Gall cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn gynnar gynyddu'r perygl o glefydau sy'n gysylltiedig â hormonau benywaidd drwy gydol oes, yn cynnwys canser y fron. Canfuwyd fod llawer o'r genynnau hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y modd y mae braster yn cael ei brosesu, gan sefydlu cysylltiad biolegol rhwng aeddfedrwydd rhywiol cynnar a pherygl cynyddol o ordewdra. Canfu'r astudiaeth ryngwladol newydd, yn edrych ar dros 100,000 o fenywod o Ewrop, yr UD ac Awstralia, fod llawer o enynnau aeddfedrwydd rhywiol yn bwysig o ran rheoli pwysau'r corff. Mae'n bosibl fod aeddfedrwydd rhywiol a metabolaeth yn gysylltiedig gan fod atgenhedliad yn dibynnu ar gael digon o faetholion yn y corff. Awgryma'r ymchwil fod amseru aeddfedrwydd rhywiol mewn merched yn cael ei lywodraethu gan amrywiaeth cymhleth o brosesau biolegol. Mae hefyd yn dynodi y gallai menywod mewn rhai teuluoedd etifeddu rhagdueddiad genetig i fagu pwysau ac aeddfedrwydd rhywiol cynnar. Dywedodd Massimo Mangino, awdur o'r Adran Ymchwil i Efeilliaid yng Ngholeg King's, Llundain: "Mae'n ddiddorol dros ben sut mae amrywiolyn genetig cyffredin yn dylanwadu ar aeddfedrwydd rhywiol cynnar ac ar fagu pwysau. Mae'r canfyddiadau'n rhoi cliwiau i ni ar ba mor gymhleth yw'r cysylltiad rhwng gwahanol brosesau biolegol." Dywedodd Dr Ken Ong, un o'r gwyddonwyr o Uned Epidemioleg y Cyngor Ymchwil Meddygol yng Nghaergrawnt: "Rydyn ni'n gwybod fod merched sy dros eu pwysau'n debycach o gyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn iau nag eraill. Dywed ein canfyddiadau wrthym fod cysylltiadau cymhleth rhwng bod dros bwysau ac aeddfedrwydd rhywiol cynnar. "Mae hi hefyd yn bwysig bod modd newid y 'ffactorau genetig cyffredin' hyn drwy wneud newidiadau i ffordd o fyw. Os bydd cyfraddau gordewdra mewn plant yn dal i godi byddwn yn gweld niferoedd uwch o ferched yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol yn ifanc. Yn groes i hynny, bydd ymdrechion i atal neu leihau gordewdra mewn plant yn helpu i osgoi aeddfedrwydd rhywiol cynnar." Meddai'r cydawdur, Dr Anna Murray o Brifysgol Caerwysg: "Mae gwyddonwyr wedi bod â diddordeb ysol ers amser maith yn sut mae'r corff yn gwybod pan mae ganddo ddigon o storfeydd maetholion i lansio aeddfedrwydd rhywiol sy'n arwain at aeddfedu atgynhyrchiol. "Fe welsom fod amseru aeddfedrwydd rhywiol yn gysylltiedig â llwybrau metabolig asid brasterog. Mae tystiolaeth i ddangos fod yr ymennydd yn gallu synhwyro'r mathau hyn o frasterau'r corff." |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.