Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Dylai bwydlenni gynnwys manylion calorïau i helpu pobl i fod yn iach yn ôl y Llywodraeth
Dylai bwydlenni gynnwys manylion calorïau i helpu pobl i fod yn iach yn ôl y Llywodraeth PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 10 DECEMBER 2010 16:12

Bydd bwytai, ffreuturau gwaith, siopau brechdanau a bwytai bwyd cyflym i gyd yn dangos manylion calorïau eu prydau ar eu bwydlenni yn y dyfodol yn ôl Andrew Lansley, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Ar gyfartaledd, mae pobl yn bwyta un pryd y dydd y tu allan i'r cartref, ac mae pryder eu bod, ar y cyfan, yn anwybodus am ba mor iach neu afiach yw'r bwyd y maen nhw'n ei fwyta.

Fel rhan o "fargen cyfrifoldeb" newydd y llywodraeth, cred gweinidogion y dylai unigolion gael eu grymuso i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch dod yn fwy iach yn hytrach na bod pobl yn dweud wrthyn nhw sut i fwyta.

Er mwyn gwneud hynny, credant fod angen i fwy o wybodaeth fod ar gael, fel bod gan y cyhoedd yr adnoddau i ofalu amdanyn nhw eu hunain yn absenoldeb "gweinyddiaeth y nani".

Wrth roi tystiolaeth o flaen pwyllgor iechyd y Tŷ Cyffredin yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd Mr Lansley ei fod yn pryderu fod yna "amgylchedd achosi gordewdra" ym mannau gwerthu bwyd y genedl ar hyn o bryd, sy'n ei gwneud hi'n anodd i bobl fwyta'n dda.

Nid yw arferion bwyta wedi newid yn arwyddocaol er gwaetha'r gostyngiad mewn gwaith corfforol dros y degawdau diwethaf. Ystyr hyn yw nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn llosgi digon o galorïau yn ystod eu diwrnod gwaith.

Cadarnhaodd fod y Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o weithio gyda'r diwydiant bwyd i helpu i arfogi pobl gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gadw eu pwysau'n i lawr.

Meddai Mr Lansley: "Un o'r pethau rydyn ni'n edrych arno drwy'r fargen cyfrifoldeb yw'r cwestiwn, er enghraifft, o labelu calorïau y tu allan i'r cartref.

"Un peth yw cael labelu calorïau ar silff eich archfarchnad, ond os yw traean prydau bwyd pobl yn cael eu bwyta y tu allan i'r cartref, a'r rheiny heb labelu clir, mae'n fwlch pwysig yng ngallu pobl i ddeall yn llythrennol faint o fwyd y maen nhw'n ei fwyta, ac iddynt allu ceisio rheoli eu diet eu hunain."

Yn dilyn ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr o'r diwydiant arlwyo, yn cynnwys bwytai bwyd cyflym, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi manylion o'u cynlluniau arddangos calorïau yn y gwanwyn.

Mewn rhannau o'r Unol Daleithiau, yn cynnwys Efrog Newydd a Los Angeles, mae'r gyfraith eisoes yn galw ar fwytai i ddarparu manylion calorïau eu prydau ar gyfer eu cwsmeriaid.

Ond awgryma ffynonellau, dan gyfreithiau cystadleuaeth yr Undeb Ewropeaidd, na fyddai'r Llywodraeth yn gallu deddfu i fynnu fod yr wybodaeth yn cael ei dangos.

Yn hytrach, mae Mr Lansley'n gobeithio cael cytundeb gwirfoddol y diwydiant bwyd i osod dyddiad ar ôl pryd y byddai disgwyl i bob bwyty ddangos manylion calorïau'r prydau y maen nhw'n eu gweini.

Byddai'r rhai oedd yn methu cadw at y cytundeb hwn yn cael eu trafod yn fewnol, dan system o hunanreoleiddio rhywbeth tebyg i Gomisiwn Cwynion y Wasg.

Ond mae beirniaid yn debygol o fwrw amheuon ar debygrwydd system wirfoddol o weithio: gwnaethpwyd môr a mynydd o gyhoeddi cynllun tebyg gan y llywodraeth Lafur ddiwethaf, ond chwalu a wnaeth hwnnw o fewn blwyddyn.

Fis Rhagfyr diwethaf, sefydlodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd arbrawf gyda nifer o gwmnïau mawr bwyd cyflym a bwytai, gyda'r rheiny'n cytuno i ddangos manylion calorïau wedi eu hargraffu nesaf at gynnyrch at silffoedd, ar fwydlenni neu wrth y mannau talu.

Ond bellach mae'r rhan fwyaf o'r cwmnïau, yn cynnwys KFC, Burger King a Pizza Hut, wedi rhoi'r gorau i'r prosiect yn dawel bach.

O'r 18 cwmni oedd yn cymryd rhan yn yr arbrawf, dim ond Pret A Manger sy'n dal i ddangos manylion calorïau gyda phob un o'u cynnyrch.

Mewn mannau eraill, mae'n rhaid i gwsmeriaid chwilio am wybodaeth i ganfod, er enghraifft, fod teisen foron Starbucks yn cynnwys 560 calori, pizza yn Pizza Hut yn cynnwys 2,656 calori ac ysgytlaeth yn Burger King yn cynnwys 612 calori. Nifer y calorïau sy'n cael eu hargymell i'w bwyta bob dydd yw 2,500 i ddynion a 2,000 i fenywod.

 

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.