Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Addunedau Blwyddyn Newydd i gael eu cyllido dan ymgyrch iechyd y cyhoedd
Addunedau Blwyddyn Newydd i gael eu cyllido dan ymgyrch iechyd y cyhoedd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 10 DECEMBER 2010 16:13

Bydd miliynau o bobl yn derbyn cymorth i gadw at eu hadduned Blwyddyn Newydd i gadw'n heini gyda thalebau am ddim i fynd i'r gampfa, i fynd i nofio ac i fwyta bwydydd iach.

Mewn cyferbyniad â'r hyn a alwant yn ddull "gweinyddiaeth nani" Llafur, mae Llywodraeth y Glymblaid eisiau rhoi anogaeth i bobl i newid eu hymddygiad, gyda'r wlad i gyd yn elwa yn sgil costau is o ofalu am boblogaeth iachach.

Dywedodd Andrew Lansley, yr Ysgrifennydd Iechyd, mai bwriad strategaeth y Llywodraeth oedd gwella iechyd y genedl a lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Wrth siarad ar ralgen Today Radio 4, meddai: "Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt lle mae gwleidyddion yn rhoi'r gorau i ddim ond dweud wrth bobl sut i fod yn iach, ond yn eu helpu i wneud hynny. Cymryd camau cadarnhaol ar gefnogi pobl ar bethau fel ymarfer corff yn ogystal â'r ymyriadau angenrheidiol."

Ymhlith nifer o fesurau i'w datgelu gan Mr Lansley mae cynlluniau ar gyfer cynllun gwerth £250 miliwn o'r enw'r "Swopathon Mawr", fydd yn gweld aelodau'r cyhoedd yn cyfnewid eu ffordd o fyw am un iachach.

Bydd talebau'n cael eu dosbarthu mewn archfarchnadoedd a meddygfeydd, yn ogystal â chael eu hargraffu mewn papurau newydd, a bydd y cyhoedd yn gallu eu cyfnewid am aelodaeth mewn campfa, sesiynau nofio a bwydydd a diodydd iach am ddim.

Y sector preifat fydd yn cyllido'r Swopathon Mawr, gaiff ei lansio'n fuan yn y Flwyddyn Newydd, gyda disgwyl i gwmnïau sy'n dymuno cynnig talebau bwyd dalu am y cynllun.

Bydd y talebau'n dod ar ffurf llyfr siec. Bydd pum miliwn o lyfrau siec yn cynnwys 20 taleb ffordd o fyw iach, yn cynnwys cynigion am sesiynau nofio hanner pris a phecynnau blasu mewn campfa am brisiau gostyngol.

Er mwyn eu defnyddio, bydd cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at wefan lle byddan nhw'n gallu chwilio am y lleoliad agosaf atynt sy'n cymryd rhan, a theipio cod er mwyn cael e-docyn.

Bydd tair miliwn o'r llyfrau siec talebau, gyda gostyngiadau o £5 yr un, ar gael yn archfarchnadoedd Asda, miliwn arall yn cael eu dosbarthu drwy bapur dydd Sul a miliwn arall o feddygfeydd, ysgolion a chyrff eraill sy'n cael eu rhedeg gan y wladwriaeth.

Meddai ffynhonnell: "Bydd agwedd y Llywodraeth tuag at iechyd y cyhoedd yn newid o'r drefn 'nani' dan Lafur i 'bwtio' dan y Glymblaid. Y syniad fydd annog pobl i wneud penderfyniadau iach ar eu pennau eu hunain heb lawer o bwysau a rheoleiddio o San Steffan.

"Y nod yw sefydlu ffordd o fyw iach o oedran cynnar am y tymor hir.

"Bydd busnesau'n cymryd rôl flaen yn y gymdeithas berswadiol newydd ac mae addewidion wedi eu gwneud na fydd rheoleiddio llym ar bethau fel fformwleiddiadau bwyd, labelu a phrisiau ond y bydd rhaid iddyn nhw chwarae eu rhan a bod yn 'gymdeithasol gyfrifol'."

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.