| Dylai plant gordew yn yr ysgol wynebu gael eu pwyso yn y dosbarth |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| MONDAY, 24 JANUARY 2011 13:41 |
|
Mae prif gorff addysgu'r Almaen wedi galw am bwyso plant yn y dosbarth a gorfodi symud disgyblion eithriadol ordew er mwyn brwydro gordewdra cynyddol yn y gymdeithas. Meddai Josef Kraus, llywydd ffederasiwn addysgu'r DL: "Pan nad yw rhieni'n gwneud yn siŵr fod eu plant yn bwyta'n iach ac yn cael digon o ymarfer corff, yna gall hynny fod yn gychwyn ar gam-drin plant mewn achosion eithafol." Dywedodd y dylai meddygon ysgol chwarae rhan fwy gweithredol gan gynnal ymgynghoriadau a phwyso myfyrwyr yn rheolaidd. Fe ddylen nhw hefyd ddweud wrth yr awdurdodau am unrhyw achosion problemus. "Pan fydd rhybuddion i rieni am blant dros bwysau'n cael eu hanwybyddu'n llwyr, yna rhaid cysylltu â'r gwasanaethau ieuenctid ac os daw hi i'r pen dylai bod toriadau i fudd-daliadau neu arian lles y rhieni," meddai Mr Kraus. Mae ei sylwadau'n dilyn rhyddhau ffigurau swyddogol oedd yn dangos fod 51 y cant o Almaenwyr yn cael eu hystyried dros bwysau. Mae gan 60 y cant o ddynion a 43 y cant o fenywod Fynegai Màs y Corff (BMI) - mesur sy'n cael ei gyfrifo gan bwysau a thaldra'r corff - o dros 25, i fyny o 56 y cant a 40 y cant yn ôl eu trefn ym 1999. Mae tua 16 y cant o ddynion ac 14 y cant o fenywod yn cael eu cyfrif yn ordew gyda BMI o dros 30. 'Dylai meddygon bwyso plant yn rheolaidd ac yn drylwyr a rhybuddio am y peryglon difrifol i iechyd sy'n dod yn sgil gordewdra," meddai Karl Lauterbach, AS gyda'r Democratiaid Cymdeithasol a llefarydd y blaid ar faterion iechyd. |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.