Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Gordewdra mewn plant yn gwaethygu yn yr Alban
Gordewdra mewn plant yn gwaethygu yn yr Alban PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 JANUARY 2011 13:43

Bu cynnydd mewn gordewdra plant ymhlith plant pump oed yn yr Alban y llynedd ac mae dros un o bob pump plentyn bellach yn cael eu cyfrif dros bwysau, yn ôl ffigurau swyddogol.

Cynyddodd y canran o blant sydd eisoes yn cael eu cyfrif dros bwysau ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol gynradd o 19.8 y cant ym mlwyddyn academaidd 2008/09 i 20.4 y cant yn 2009/10.

Roedd un o bob 12 plentyn mor dew nes cael eu cyfrif yn ordew ac roedd un o bob 25 yn ddifrifol ordew. Roedd bechgyn yn fwy tebygol o fod dros bwysau na merched a'r un peth gyda phlant oedd yn byw mewn ardaloedd tlotach.

Mae'r ffigurau'n cynrychioli'r cynnydd cyntaf mewn gordewdra plant am bedair blynedd ac yn dod er gwaethaf llu o fentrau gan Weithrediaeth yr Alban i annog disgyblion i fwyta'n fwy iach ac i wneud mwy o ymarfer corff.

Ceisiodd gweinidogion yr SNP ddweud mai blip oedd y canfyddiadau ond dywedodd y gwrthbleidiau fod y weinyddiaeth wedi methu â chadw ei haddewid y bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael dwy awr o Ymarfer Corff yr wythnos.

Dywedodd Ross Finnie, llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban ar iechyd: "Mae'n arswydus fod cymaint o blant ifanc iawn yn cael eu diffinio'n ddifrifol ordew erbyn eu bod yn bump oed. Mae'r SNP yn gadael ein plant i lawr.

"Os na fydd y llywodraeth yn gweithredu ar unwaith, yna mae perygl gwirioneddol y bydd yr holl waith da yn mynd i'r afael â strôc, clefyd y galon a rhai mathau o ganser yn yr Alban yn cael ei danseilio."

Mesurodd swyddogion iechyd indecs màs y corff (BMI) 39,056 o blant pump oed. Gwneir hyn drwy rannu pwysau rhywun mewn cilogramau gyda'u taldra mewn metrau.

Mae canlyniad rhwng 18.5 a 25 yn normal, rhwng 25 a 30 dros bwysau a rhwng 30 a 40 yn ordew. I fod yn ddifrifol ordew mae angen i'r BMI fod dros 40, o leiaf 60 y cant yn fwy na'r hyn sy'n cael ei dybied yn ddelfrydol.

Canfu'r ffigurau fod 21 y cant o fechgyn pump oed dros bwysau ac 19.8 y cant o'r merched. Yn gyffredinol, roedd 8.2 o'r plant yn ordew a 4.1 yn ddifrifol ordew.

Roedd plant sy'n tyfu i fyny yn nheuluoedd tlotaf yr Alban (22.2 y cant) yn llawer mwy tebygol o fod dros bwysau na'u cyfoedion sy'n byw yng nghymunedau mwyaf cyfoethog y wlad (17 y cant).

Roedd y broblem ar ei gwaethaf yn ardaloedd byrddau iechyd Dunfries a Galloway (24.4 y cant) a'r Ucheldiroedd (23.9 y cant), ac yn lleiaf cyffredin yn Swydd Lanark (17.1 y cant).

Meddai Shona Robison, y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus: "Er ei bod hi'n siomedig nad yw'r gostyngiad diweddar yn lefelau gordewdra a bod dros bwysau mewn plant P1 wedi parhau, nid yw'r cynnydd bychan a welwyd yn arwyddocaol ac mae'r duedd gyffredinol yn dal yn gadarnhaol."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.