Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Unig blant yn 'fwy tebygol o fod dros bwysau', medd astudiaeth
Unig blant yn 'fwy tebygol o fod dros bwysau', medd astudiaeth PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 JANUARY 2011 13:45

Mae plant sy'n tyfu i fyny heb frodyr a chwiorydd yn fwy tebygol o fod dros bwysau gydag ofnau eu bod yn cael eu maldodi'n ormodol gan eu rhieni.

Canfu ymchwil ddiweddar fod unig blant 25 y cant yn fwy tebygol o fod â phroblemau gyda'u pwysau yn saith oed na phlant yn yr un dosbarth sydd â brodyr a chwiorydd.

Awgrymodd yr astudiaeth ei bod yn bosibl fod plant yn llai symudol oherwydd nad oes brodyr a chwiorydd yn y cartref .

Awgrymodd ymchwilwyr hefyd y gallai'r gwahaniaethau fod yn ganlyniad i deuluoedd gor-amddiffynnol ac unig blant yn cael eu bwydo ormod gan rieni maldodus.

Daw'r datgeliad fel rhan o ddadansoddiad manwl o dros 11,000 o blant gafodd eu geni yn nwy flynedd gyntaf y mileniwm.

Dangosodd yr astudiaeth - dan arweiniad y Sefydliad Addysg sy'n rhan o Brifysgol Llundain- gysylltiad uniongyrchol rhwng ymddygiad rhieni a phwysau plant.

Datgelwyd fod plant rhieni oedd yn ysmygu neu oedd â phroblemau gyda'u pwysau eu hunain yn llawer mwy tebygol o fod yn ordew.

"Mae pwysigrwydd BMI rhieni, yn enwedig y fam, yn awgrymu fod bod dros bwysau yn broblem deuluol, ac mae angen targedu negeseuon iechyd at famau yn enwedig," medd yr adroddiad.

"Mae'n ymddangos mai'r prif reswm dros blant dros bwysau yw amgylchedd cartref gordewaidd yn hytrach na ffactorau arferol lefel plant."

Mae ymchwilwyr yn olrhain iechyd, ymddygiad, addysg a datblygiad gwybyddol plant fel rhan o Astudiaeth Carfan y Mileniwm sy'n gyfredol ac yn cael ei gyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae dadansoddiad manwl o'r data yn olrhain newidiadau mewn pwysau plant dros saith mlynedd gyntaf eu bywydau.

Canfu fod plant oedd dros bwysau yn bump oed 25 gwaith yn fwy tebygol o fod â phroblemau gyda'u pwysau na phlant eraill.

Awgrymodd ymchwilwyr na ddylai "bloneg tyfu" mewn plant "gael ei anwybyddu a bod ymyrraeth gynnar yn hanfodol" i atal problemau pwysau rhag gwaethygu.

Dywedwyd hefyd fod merched yn fwy tebygol o fod dros bwysau na bechgyn. Roedd bron un o bob pedwar merch yn rhy drwm yr oedran yma o gymharu ag ychydig dros un o bob chwech bachgen, yn ôl yr astudiaeth.

Roedd plant heb frodyr a chwiorydd hefyd yn drymach na phlant eraill.

Roedd plant saith oed oedd yn unig blant 25 y cant yn fwy tebygol o fod dros bwysau na'r rhai ag un brawd neu chwaer a 30 y cant yn fwy tebygol o fod dros bwysau na'r rhai â dau frawd neu chwaer.

Meddai Dr Alice Sullivan, prif awdur yr adroddiad: "Mae merched ac unig blant hefyd yn fwy tebygol o fynd dros bwysau rhwng pump a saith mlwydd oed.

"Dydy hi ddim yn glir ai'r rheswm dros y risg cynyddol i ferched yw eu bod yn cael eu gor-fwydo o gymharu â bechgyn, neu oherwydd eu bod yn gwneud llai o weithgaredd corfforol - efallai oherwydd rhieni gor-amddiffynnol - neu ryw gyfuniad o'r ddau.

"Yn yr un modd dydyn ni ddim yn gwybod a yw unig blant yn llai symudol oherwydd diffyg brodyr a chwiorydd, neu'n cael eu gor-fwydo gan rieni maldodus. Naill ffordd neu'r llall, gall gwneud rhieni'n ymwybodol o'r risg cynyddol i ferched ac unig blant helpu i newid eu hymddygiad."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.