| Adroddiad yn dangos fod traean o'r plant sy'n gadael yr ysgol gynradd dros bwysau |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Steven Ross |
| MONDAY, 24 JANUARY 2011 13:46 |
|
Mae nifer y disgyblion sy'n cael eu cyfrif yn ordew hefyd yn cynyddu yn ôl ystadegau newydd y GIG. Mae bron chwarter y plant dros bwysau neu'n ordew erbyn eu bod yn cychwyn yn yr ysgol gynradd, ac mae dros draean ohonynt felly erbyn eu bod yn gadael, yn ôl ystadegau newydd y GIG. Mae'r data, yn seiliedig ar fesur taldra a phwysau dros filiwn o ddisgyblion yn Lloegr, yn tanlinellu graddfa a chynnydd parhaus gordewdra mewn plant. Mae arbenigwyr iechyd yn galw am gamau newydd gan y llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem. Mae tua 9.8% o blant pedair a phump oed yn cael eu cyfrif yn ordew erbyn iddyn nhw gyrraedd y dosbarth derbyn yn ôl y ffigurau blynyddol diweddaraf gan y Rhaglen Genedlaethol Mesur Plant (NCMP). Erbyn iddyn nhw gyrraedd 10 ac 11 oed, ac ym mlwyddyn 6, eu blwyddyn olaf, mae hynny wedi dyblu bron i 18.7%, medd adroddiad heddiw gan Ganolfan Wybodaeth y GIG, sy'n cyflwyno canfyddiadau'r NCMP ar gyfer 2009-10. Mae bron un o bob pedwar o blant y dosbarth derbyn naill ai dros bwysau neu'n ordew - 23.1% - ond mae'r ffigur yn 33.4% ymhlith plant blwyddyn chwech - dros un o bob tri. Dim ond ychydig yn uwch na ffigurau'r llynedd, sef 22.8% a 32.6%, yw'r ddau ffigur ond maen nhw'n tanlinellu'r cynnydd yn nifer y plant ifanc sydd â phroblemau gyda'u pwysau. Mae'r ffigurau'n gwrthddweud honiadau gan weinidogion iechyd yn y llywodraeth flaenorol fod gordewdra mewn plant yn lefelu a bod mentrau fel cinio ysgol iachach, ffrwythau am ddim mewn dosbarthiadau a chynnydd mewn cyfranogiad mewn Ymarfer Corff yn cael effaith. "Mae'r sicrwydd a gafwyd gan y Llywodraeth y llynedd fod lefelau gordewdra mewn plant yn sefydlogi yn anffodus wedi eu profi'n anghywir. Mae unrhyw obaith oedd gan San Steffan am ateb cyflym i'r epidemig wedi ei chwalu gan ffigurau heddiw," meddai Tam Fry, cadeirydd y Sefydliad Tyfiant Plant a llefarydd ar ran y Fforwm Gordewdra Cenedlaethol, sy'n cynrychioli meddygon, nyrsys a dietegwyr sy'n gweithio gyda gordewdra. "Mae'r ffaith fod gordewdra'n dyblu yn ystod blynyddoedd yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn yn dangos fod rhaid i'r Adran Addysg ailfeddwl ei chynigion diweddar ar ginio ysgol a gweithgaredd corfforol. "Dylai fod gan yr Adran Iechyd hefyd gywilydd fod bron chwarter o'n plant yn cyrraedd yr ysgol gynradd dros bwysau neu'n ordew. Nes y bydd ei pholisïau'n caniatáu i bob plentyn 4 oed yn y DU gyrraedd yr ysgol â'u pwysau'n iach, bydd cyfraddau gordewdra'n dal i gynyddu." Mae rhai arbenigwyr yn ofni fod cyffredinrwydd gwirioneddol gordewdra mewn plant hyd yn oed yn waith, oherwydd ni chafodd rhai o'r 9% o'r plant wnaeth ddim cymryd rhan eu mesur gan nad oedd eu rhieni am i ordewdra difrifol eu plant i gael eu nodi. Mae'r NCMP yn mesur taldra a phwysau plant dosbarth derbyn a blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd yn Lloegr er mwyn canfod faint o ddisgyblion sy'n cael eu cyfrif "dan bwysau", "pwysau iach", "dros bwysau" a "gordew". Mae'r ffigurau'n rhoi darlun gweddol gywir gan fod 91% o bob disgybl oedd yn gymwys - dros filiwn i gyd - wedi cymryd rhan y llynedd, y nifer mwyaf erioed. Dywedodd Tim Straughan, prif weithredwr Canolfan Wybodaeth y GIG: "Mae'r astudiaeth yn awgrymu fod problemau pwysau'n dal i fod yn llawer gwaeth i blant hŷn nag i blant iau, gydag un o bob tri plentyn blwyddyn 6 naill ai dros bwysau neu'n ordew a bron un o bob pump yn ordew. Mae'r ystadegau hyn yn awgrymu fod angen gwneud mwy gyda phlant iau i fynd i'r afael â gordewdra yn yr ysgol gynradd ac i annog bwyta'n iach a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, er mwyn lleihau effaith ar iechyd y plant hyn yn y dyfodol." Dywedodd Paul Sacher, dietegydd pediatrig a chyd-sylfaenydd Mend, menter gymdeithasol sy'n darparu rhaglenni ffordd o fyw iach i blant ar draws y DU, fod y data newydd yn dangos unwaith eto fod yna "argyfwng gordewdra mewn plant", sy'n gwaethygu. "Mae'n achos pryder mawr fod gordewdra mewn plant ar gynnydd a rhaid gweithredu i wrth-droi'r duedd hon," medd Sacher. "Gyda bron un o bob tri plentyn dros bwysau neu'n ordew yn y DU, mae angen gwneud mwy i amddiffyn iechyd plant Prydain ac osgoi'r baich ariannol dianghenraid yn y tymor byr a'r tymor hir y mae gordewdra mewn plant yn ei osod ar y GIG ar yr adeg dyngedfennol hon. Gobeithio y bydd y ffigurau hyn yn annog y llywodraeth i fuddsoddi mewn rhaglenni byw yn iach pellach fel ateb i'r argyfwng gordewdra mewn plant." Dywedodd Dr Helen Walters o Gyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU fod y cynnydd bach flwyddyn ar ôl blwyddyn yn "dynodi ein bod yn atal y cynnydd [mewn gordewdra plant]. Ond bydd hi'n cymryd degawdau i ddatrys y sefyllfa, ac fel mae pethau'n sefyll, mae'r darlun yn dal yn un tywyll. Mae angen gwneud llawer: mae angen i blant ym mhob rhan o'r wlad allu mynd i fannau awyr agored diogel i wneud chwaraeon, mae angen cyfleoedd i deithio'n ddiogel ar feic neu gerdded i'r ysgol, ac mae angen diet da drwy ginio ysgol iach a bod ffrwythau a llysiau rhad ar gael iddynt." |
No current events.