Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Galw menter byw yn iach yn 'sarhad'
Galw menter byw yn iach yn 'sarhad' PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Steven Ross   
MONDAY, 24 JANUARY 2011 13:47

Byddai'n rhaid i deuluoedd sydd eisiau elwa yn sgil talebau Swapathon Newid am Oes sy'n cael eu cefnogi gan y llywodraeth yn gorfod gwario dros ddwywaith eu gwerth er mwyn eu defnyddio, yn ôl rhybudd gan grŵp ymgyrchu dros fwyd.

Mae'r talebau, sydd ar gael drwy siopau Asda dethol, wedi eu hanelu at fynd i'r afael â phroblem gynyddol gordewdra drwy annog pobl i wneud gwell dewisiadau drwy gynnig disgownt iddynt ar "nwyddau iachach".

Fodd bynnag, yn ôl yr Ymgyrch Bwyd Plant (CFC), byddai'n rhaid i siopwyr wario o leiaf £117.05 gydag Asda, JJB Sports a WeightWatchers i dderbyn yr arbedion o £50 sy'n cael eu hysbysebu.

Mae'r CFC yn honni fod dros hanner yr arbedion yn dod drwy ddisgownt sy'n cael ei gynnig ar ymuno â chynllun WeightWatchers, sydd ar gael ar wefan WeightWatchers heb y talebau. Dywedodd y grŵp hefyd y byddai weithiau'n rhatach prynu fersiwn Asda ei hun o nwydd brand arbennig yn lle defnyddio'r daleb.

Dywedodd Christine Haigh, cydlynydd yr Ymgyrch Bwyd Plant, fod y fenter yn 'sarhad', gan honni mai dim ond "cyfle marchnata gwych i'r cwmnïau dan sylw" oedd hwn, ond "heb fawr o fanteision i boced nac i iechyd y cwsmer".

Meddai: 'Yn anffodus, mae'r ymdrech hwn i hyrwyddo nwyddau mwy iach yn cael ei gysgodi gan hysbysebion am fwydydd sothach. Nes y bydd y llywodraeth yn cymryd camau i fynd i'r afael â hyn, megis gwarchod plant rhag marchnata bwydydd afiach, rydyn ni'n annhebygol o weld y DU yn symud o'i safle diflas ar frig tabl gordewdra Ewrop."

Ychwanegodd: "Mae'n sarhad fod y llywodraeth wedi mynd â nofio am ddim oddi wrth blant ac yn awr mae ganddi'r wyneb i gynnig disgownt unwaith ac am byth ar bris un sesiwn nofio i deulu."

Meddai'r Adran Iechyd mewn datganiad: "Mae pob llyfr Swapathon yn cynnig gwerth dros £50 o dalebau, yn cynnwys arbedion gwerth £19 yn Asda, dros £30 o arbedion ar WeightWatchers ar-lein a £5 i ffwrdd ar esgidiau yn JJB Sports.

"Does dim isafswm gwario, dim amodau ac mae yno arbedion sylweddol - maen nhw'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei honni. Bydd y fenter hon yn ei gwneud hi ychydig yn haws i gael dewisiadau iachach yn rhatach."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.