Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cynhadledd Ffordd o Fyw 2011
Cynhadledd Ffordd o Fyw 2011 PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
WEDNESDAY, 09 FEBRUARY 2011 09:42

Mae'r amser o'r flwyddyn wedi dod eto a bydd cynhadledd Ffordd o Fyw yn cael ei gynnal ar 10fed Chwefror rhwng 10am a 4pm. Eleni rydym yn cael ein croesawu gan un ohonoch chi - Plant y Cymoedd - yn eu canolfan ym Mhenygraig.

Ynghyd â dangos i'ch gilydd beth rydych chi wedi bod yn ei wneud (gan hidlo drwy'r rownd nesaf o storïau am y Newid Mwyaf Arwyddocaol), bydd y gynhadledd eleni hefyd yn cynnwys dysgu ehangach o'r tu hwnt i'r rhaglenni. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Mike Ponton - Bydd Mike yn siarad am wneud y darlun mawr yn lleol - beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig. Mae wedi gweithio o fewn ac o gwmpas y GIG am bron 48 mlynedd. Mae ei waith wedi cynnwys swyddi uwch reoli mewn ysbytai, awdurdodau iechyd, Hybu Iechyd Cymru a bu'n uwch was sifil yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mike bellach yn gweithio fel Uwch Gymrawd rhan amser yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg.
  • Elaine Cooper - mae Elaine yn uwch ymgynghorydd gyda Hall Aitken ac ymunodd â'r cwmni ar ôl cwblhau doethuriaeth ar blant a iechyd. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Phrifysgol Strathclyde yn Glasgow lle bu'n gwneud ymchwil i bolisïau oedd yn ceisio gwneud iawn am anghydraddoldebau iechyd. Bydd Elaine yn siarad am anawsterau Arddangos Gwerth mewn ymyraethau iechyd - a bydd yn gofyn beth sy'n gweithio a pham?
  • Gareth Stratton - bydd Gareth yn siarad am O Floneg i Fywiog ac yn ôl: Y ffordd yn ôl NICE. Mae Gareth yn Athro Gwyddor Ymarfer Corff Pediatrig yn y Sefydliad Ymchwil i Wyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Yn 2001 fe ffurfiodd Gareth REACH (Ymchwil i Weithgaredd Ymarfer Corff a Iechyd Plant) sy'n dal i wneud ymchwil wedi ei anelu at wella'r wybodaeth o weithgaredd corfforol, iechyd a ffitrwydd plant. Bu Gareth yn gadeirydd y Grŵp Datblygu Rhaglenni a ysgrifennodd y Canllawiau Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Gweithgaredd Corfforol Plant ar ran NICE ym mis Ionawr 2009 ac ar hyn o bryd mae'n gadeirydd y grŵp sy'n ysgrifennu'r canllawiau gweithgaredd corfforol i blant a phobl ifanc ar gyfer CMOau'r DU.
  • Ac yn olaf, bydd cynrychiolydd o'r Gronfa Loteri Fawr hefyd yn siarad am Fyw yn Iach a'r dyfodol o'u safbwynt hwy.

Rydym yn gwybod fod prosiectau'n gwerthfawrogi'r cyfle i gyfarfod ei gilydd, i drafod eu gwaith ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd. Bydd Plant y Cymoedd yn mynd â chi ar daith fer ac yn dangos peth o'u gwaith i chi. Bydd cyfle i chi hefyd osod stondin arddangos os dymunwch, i ddangos i bobl beth rydych chi'n ei wneud, a bydd cyfleoedd drwy gydol y dydd i ymweld stondinau pobl eraill ac i drafod eich prosiect. Os ydych am ddod â stondin, a wnewch chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, gan gyrraedd am 8.30 ar fore'r gynhadledd i osod eich stondin. Dylai'r stondin fod yn un syml a hawdd ei gosod, dim byd rhy gymhleth.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 10fed Chwefror.

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.