Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Citiau alergedd bwyd 'ddim yn gweithio' rhybuddia meddygon
Citiau alergedd bwyd 'ddim yn gweithio' rhybuddia meddygon PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 FEBRUARY 2011 09:52

Mae rhieni yn ymestyn dioddefaint eu plant ac yn gwastraffu arian drwy brynu citiau profi am alergeddau bwyd nad ydynt yn gweithio, rhybuddia meddygon heddiw.

Dywedodd arbenigwyr o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (Nice) fod llawer o rieni yn troi at brofion alergedd bwyd y gellir eu prynu ar-lein am tua £60, gan fod cael diagnosis cywir drwy'r GIG yn aml mor araf.

Mae NICE wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n anelu at gyflymu'r diagnosis gan y GIG gan wneud i feddygon teulu gymryd y mater yn fwy o ddifrif.

Rhybuddiodd Dr Adam Fox, ymgynghorydd mewn alergeddau pediatrig yn Ysbytai Guy's a St Thomas yn Llundain, a fu'n gweithio ar y canllawiau, bod plant yn aml yn cael eu rhoi ar ddiet "caeth iawn" diet ar sail profion "hollol annilys".

Dywedodd: "Mae llawer o rieni yn aml yn troi at ddulliau amgen i helpu i gael diagnosis i'w plentyn, ond ar hyn o bryd ychydig o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer y dulliau hyn, ac mae rhieni'n aml yn rhoi eu plant ar ddietau caeth iawn yn dilyn y diagnosis anghywir, sy'n gallu gadael y plant yn dioddef o ddiffyg maeth, yn ogystal â gwastraffu amser ac arian. "

Canfu un astudiaeth ar raddfa fach yn 2006 fod 40 y cant o blant mewn clinig alergeddau wedi cael rhyw fath o brawf diagnostig neu driniaeth amgen.

Ond dywedodd Dr Fox fod y profion yn "ddiwerth" ac yn "rhwystro gwaith" clinigwyr.

Hyd yn oed pe byddai cwmnïau preifat yn cynnig yr unig ddau brawf sydd wedi eu profi i weithio - sef y prawf pigiad croen a'r prawf IgE (RAST) - dim ond ar ôl i feddyg weld y plentyn y byddai modd i ddiagnosis cywir gael ei roi, rhybuddiodd Dr Joanne Walsh, meddyg teulu yn Norwich.

Canfu astudiaeth ddiweddar fod un o bob 20 o blant ym Mhrydain yn dioddef o alergedd bwyd, gydag un o bob 50 yn dioddef o alergedd i gnau. Mae'n ymddangos bod nifer yr achosion yn cynyddu, meddai'r meddygon.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.