Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Labelu calorïau'n cael dim effaith ar ddewisiadau bwyd
Labelu calorïau'n cael dim effaith ar ddewisiadau bwyd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 FEBRUARY 2011 09:53

Nid yw rhoi cynnwys calorïau ar labeli bwyd yn llwyddo i rwystro pobl rhag bwyta'n afiach, yn ôl canfyddiadau astudiaeth.

Canfu ymchwilwyr er bod cwsmeriaid yn dod yn fwy ymwybodol o faint yr oedden nhw'n ei fwyta, nid oedd hyn yn cael fawr o effaith ar yr hyn yr oeddent yn ei brynu.

Daethpwyd i'r casgliad fod pris a blas yn gymhellion mor bwerus nes eu bod yn gwrthweithio unrhyw awydd i fod yn iach.

Dywedodd Dr Brian Elbel, a gwnaeth yr ymchwil ar ran Prifysgol Efrog Newydd, fod angen ffyrdd eraill o leihau faint o galorïau oedd yn cael eu bwyta.

"Mae'n bwysig deall nad yw labelu'n debygol o fod yn ddigon i ddylanwadu ar raddfa fawr ar ordewdra," meddai.

Cynhaliodd Dr Elbel a'i dîm yr ymchwil pan gyflwynodd Dinas Efrog Newydd bolisi cyffredinol o labelu calorïau yn eu holl siopau bwyd cyflym.

Fe gymharodd faint y newidiodd hyn arferion bwyta o gymharu â siopau tebyg gerllaw yn New Jersey nad oedd yn gorfod labelu eu bwyd.

Fe ganfu fod rhai yn eu harddegau a rhieni plant ifanc, a holwyd wrth y drws, yn honni eu bod yn fwy ymwybodol o faint o galorïau yr oeddent yn ei brynu a bod hynny wedi dylanwadu ar eu penderfyniad.

Ond dangosodd dadansoddiad o'u derbyniadau eu bod yn dal i fwyta'r un calorïau â'u cyfoedion mewn llefydd lle nad oedd labelu.

Casglodd Dr Elbel a'i gydweithwyr dderbyniadau ac arolygon gan 427 rieni a rhai yn eu harddegau yn y bwytai bwyd cyflym cyn ac ar ôl i labelu gorfodol gychwyn ym mis Gorffennaf 2008.

Ni welodd yr astudiaeth unrhyw newid yn nifer y calorïau oedd yn cael eu prynu yn y bwytai bwyd cyflym ar ôl labelu ddod i rym.

Roedd pobl yn eu harddegau'n prynu tua 725 calori ac roedd rhieni'n prynu tua 600 calori ar gyfer eu plant.

I'r rhai yn eu harddegau, blas y bwyd oedd yn cael ei ystyried fel y rheswm pwysicaf dros ei brynu, tra bod pris yn ystyriaeth i ychydig dros 50 y cant.

Dywedodd ychydig dros chwarter o'r grŵp eu bod yn aml neu bob amser yn cyfyngu ar faint o fwyd yr oeddent yn ei fwyta mewn ymdrech i reoli eu pwysau.

Adroddodd yr astudiaeth hefyd fod y rhan fwyaf o'r rhai yn eu harddegau yn tanamcangyfrif faint o galorïau yr oeddent wedi eu prynu, rhai'n tanamcanu hyd at 466 o galorïau.

Cafodd yr astudiaeth ei gyhoeddi yn yr International Journal of Obesity.

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.