| Gall diet gwael ostwng lefelau IQ plant |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 25 FEBRUARY 2011 09:54 |
|
Mae astudiaeth newydd yn awgrymu fod diet sy'n uchel mewn braster, siwgr a bwydydd wedi'u prosesu yn gostwng lefelau IQ plant. Dywed yr adroddiad bod arferion bwyta ymysg plant tair oed yn siapio perfformiad yr ymennydd wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae diet o fwyd wedi'i brosesu yn bennaf yn dair oed yn uniongyrchol gysylltiedig ag IQ is yn wyth a hanner oed, yn ôl astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mryste ar filoedd o blant ym Mhrydain. Mae'r 'Avon Longitudinal Study of Parents and Children' yn olrhain iechyd a lles tymor hir tua 14,000 o blant. Roedd bwyd sy'n llawn fitaminau a maetholion yn gymorth i roi hwb i berfformiad meddyliol wrth i bobl ifanc fynd yn hŷn, yn ôl y Journal of Epidemiology and Community Health. Dywedodd ymchwilwyr y gallai diet plant bach newid lefelau IQ yn ddiweddarach yn ystod plentyndod, hyd yn oed os yw arferion bwyta yn gwella gydag oedran. "Mae hyn yn awgrymu y gall unrhyw effeithiau gwybyddol/ymddygiadol sy'n ymwneud ag arferion bwyta yn ystod plentyndod cynnar barhau wrth i'r plentyn dyfu, er gwaethaf unrhyw newidiadau wedi hynny i'r bwyd yn y diet," ysgrifennodd yr awduron. Yn ystod yr astudiaeth, cwblhaodd y rhieni holiaduron yn rhoi manylion o'r mathau ac amlder y bwyd a'r diodydd yr oedd eu plant yn bwyta ac yn yfed pan oeddent yn dair, yn bedair, yn saith ac yn wyth a hanner mlwydd oed. Mae pob cynnydd o un pwynt yn sgôr patrwm diet yr astudiaeth - cofnod o faint o fraster a broseswyd sydd yn y diet - yn gysylltiedig â gostyngiad o 1.67 pwynt yn yr IQ. Mae'r ymennydd yn tyfu ar ei gyflymaf yn ystod tair blynedd gyntaf bywyd. "Mae'n bosibl y gallai maethiad da yn ystod y cyfnod hwn annog y tyfiant gorau yn yr ymennydd," ychwanegodd yr adroddiad. Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Bwyd Ysgol, Michael Nelson: "O ystyried bod oddeutu 23% o blant yn dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew, mae'n gwbl glir y bydd dewisiadau iach fel rhan o'u datblygiad cynnar yn eu rhoi mewn sefyllfa dda - nid yn unig i gadw pwysau iach wrth iddynt dyfu i fyny, ond fel y mae'r dystiolaeth hon yn awgrymu, gan wella eu gallu i wneud yn dda yn yr ysgol. "Mae'r canfyddiadau hyn hefyd yn dangos pwysigrwydd helpu pawb sy'n ymwneud â datblygiad cynnar plant i gael yr wybodaeth a'r cyngor y maent ei hangen ar faethiad da." |
No current events.