Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Gordewdra plant: marc cwestiwn dros raglen fesur
Gordewdra plant: marc cwestiwn dros raglen fesur PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 FEBRUARY 2011 09:55

Mae arbenigwyr yn ofni y gallai cynllun i fesur gordewdra mewn plant gael ei niweidio o ganlyniad i ymgyrch y Glymblaid i wella iechyd y cyhoedd.

O 2013 bydd y cyllid ar gyfer y Rhaglen Genedlaethol Mesur Plant, sy'n pwyso plant y flwyddyn y maen nhw'n cychwyn yn yr ysgol gynradd a'r flwyddyn y maen nhw'n gadael, yn cael ei drosglwyddo i awdurdodau lleol.

Ond mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd yn pryderu y bydd rhai awdurdodau lleol yn rhoi'r gorau i ariannu'r cynllun oherwydd y bydd ganddyn nhw bethau mwy pwysig i dalu amdanynt.

Dywedodd Alan Maryon-Davis, athro anrhydeddus iechyd y cyhoedd yng Ngholeg y Brenin Llundain: "Rwy'n pryderu'n fawr ynghylch faint o arian fydd yn cael ei drosglwyddo i'r lefel lleol."

Bydd gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, corff newydd a fydd yn dechrau gweithredu yn 2013 gyda chyllideb o £4 biliwn, lu o gyfrifoldebau cenedlaethol megis y rhai sy'n cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, meddai.

"Bydd yr hyn sydd ar ôl yn cael ei roi i'r awdurdodau lleol ar gyfer eu rhaglenni iechyd a lles.

"Mae £4 biliwn ar gyfer Iechyd y Cyhoedd Lloegr yn swnio fel swm enfawr, ond ar ôl i chi ddechrau cyfrifo'r holl bethau y mae'n rhaid eu gwneud ar lefel genedlaethol, pwy a ŵyr faint fydd ar ôl?

"Bydd dyfodol y Rhaglen Rheoli Plant Cenedlaethol yn dibynnu ar p'un a fydd unrhyw gyfarwyddeb ganolog i sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ymlaen â'r gwaith.

"Os mai cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus lleol fydd yn penderfynu, rwy'n pryderu y bydd yn beth anghyson iawn.

"Bydd rhai yn parhau gyda'r cynllun, ond bydd eraill yn dweud 'Dewch i ni gael gwared ag ef, mae angen i ni dalu am brydau-ar-glud.'

"Mae angen cael cyfarwyddeb lleol cryf gan fod y cynllun wedi bod yn wych yn darparu data defnyddiol iawn ar broblem enfawr: gordewdra plant"

Dywedodd fod y cynllun, sydd wedi bod yn rhedeg ers 2005, yn ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi gwybodaeth am ba ardaloedd oedd â'r problemau mwyaf gyda gordewdra plant.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd fod y Llywodraeth yn "ymroddedig" i'r rhaglen ac yn "archwilio" sut y byddai'n cael ei chyflwyno o 2013 ymlaen.

Dywedodd: "Fel y nodir ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, mae'r Llywodraeth yn ymroddedig i'r Rhaglen Genedlaethol Mesur Plant.

"Bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ffynhonnell hanfodol o wybodaeth i lywio polisi ac i gomisiynu gwasanaethau lleol.

"Ar hyn o bryd rydym yn archwilio sut y bydd y Rhaglen Genedlaethol Mesur Plant cael ei chyflwyno orau drwy'r system iechyd cyhoeddus newydd."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.