Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Cynhadledd Ffordd o Fyw 2011
Cynhadledd Ffordd o Fyw 2011 PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 FEBRUARY 2011 09:56

Mae'n anodd credu fod blwyddyn wedi mynd heibio ers cynhadledd ddiwethaf Ffordd o Fyw, a bellach mae cynhadledd eleni wedi mynd a dod hefyd.

WOL_conference_2011_image5Croesawyd y gynhadledd eleni gan Fresh Beginnings, sy'n cael ei redeg gan Valleys Kids yn Nhonypandy. Fe'i cynhaliwyd yn y capel gwych sydd wedi'i adnewyddu ganddynt, sydd bellach yn ganolfan amlbwrpas yn cynnwys ystafelloedd cyfarfod, mannau ymlacio a gofod theatr lle cafodd y gynhadledd ei chynnal.

Dechreuodd y diwrnod gyda'r croesawu a'r cyflwyniadau arferol ac yna cafwyd cyfres o gyflwyniadau diddorol iawn gan nifer o arbenigwyr o feysydd amrywiol.

Y siaradwr cyntaf oedd Mike Ponton sy'n gweithio fel uwch-gymrawd yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg.

Teitl cyflwyniad Mike oedd 'Gwneud y Darlun Mawr yn Lleol', ac roedd yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o hybu iechyd a lles.

WOL_conference_2011_image8Y siaradwr nesaf oedd Elaine Cooper, aelod o Dîm Cefnogi Ffordd o Fyw, a roddodd gyflwyniad ar 'Werth Ymyriadau Iechyd'. Cafwyd araith ddiddorol dros ben gan Elaine, fu'n dwyn i gof ddigwyddiadau o'i phlentyndod ei hun yn yr Alban gan ddefnyddio hyn i bwysleisio pwysigrwydd ymyriadau iechyd.

Gareth Stratton oedd y siaradwr nesaf, Athro mewn Gwyddor Ymarfer Corff Pediatrig yn y Sefydliad Ymchwil i Wyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Siaradodd Gareth yn helaeth am y dystiolaeth yr oedd wedi'i chasglu ar fyw yn iach. Cyflwynodd Gareth nifer o graffiau a siartiau yn amlygu cyflwr iechyd plant a'r effeithiau y gall ymarfer corff ei gael arno. Siaradodd hefyd am sut y dylai'r Llywodraeth ystyried cynyddu faint o ymarfer corff y mae plant yn ei wneud yn yr ysgol.

Cafwyd y cyflwyniad olaf gan Mike Walsh, cynrychiolydd o'r Gronfa Loteri Fawr, y bobl hyfryd hynny sy'n ariannu'r rhaglen Ffordd o Fyw. Amcan cyflwyniad Mike yn syml oedd i ail-gadarnhau pwrpas y prosiect Ffordd o Fyw prosiect ac i roi rhywfaint o wybodaeth am brosiectau'r Gronfa Loteri Fawr yn y dyfodol.

Cafwyd taith o gwmpas yr adeilad hefyd a chyflwyniad gan Valley Kids eu hunain yn amlygu peth o'r gwaith y maent yn ei wneud ochr yn ochr â'r prosiect Fresh Beginnings. Maen nhw wedi bod yn gwneud gwaith pwysig iawn yn yr ardal ac mae'n golygu llawer i'r rhai y maen nhw wedi eu helpu yn ogystal ag i'r staff yn y ganolfan.

Diweddglo'r gynhadledd oedd y Newid Mwyaf Arwyddocaol lle cafodd pawb weld y gwahaniaeth y mae'r holl brosiectau yn ei wneud, felly diolch i bawb a gyfrannodd yn y sesiwn honno.

Estynodd Valleys Kids groeso arbennig i'r gynhadledd yn 2011 ac roedd yr amrywiaeth o siaradwyr yn ardderchog. Diolch yn fawr i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd ac, wrth gwrs, diolch yn fawr i Valleys Kids am eu croeso.

WOL_conference_2011_image2 WOL_conference_2011_image3
WOL_conference_2011_image4 WOL_conference_2011_image1
WOL_conference_2011_image6 WOL_conference_2011_image7
LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.