| Mae plant sy'n cael tynnu eu tonsiliau'n 'fwy tebygol o fynd yn ordew' |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| FRIDAY, 25 MARCH 2011 12:11 |
|
Mae astudiaeth newydd yn rhybuddio fod plant sy'n cael tynnu eu tonsiliau'n fwy tebygol o fynd yn ordew. Tynnu tonsiliau yw'r llawdriniaeth mwyaf cyffredin sy'n cael ei wneud ar blant. Canfu ymchwilwyr fod ieuenctid sy'n cael tynnu eu tonsiliau, boed hynny gyda thynnu adenoidau neu beidio, ym fwy tueddol o ddod yn ordew yn dilyn llawdriniaeth. Mae gordewdra plant wedi cynyddu'n enfawr dros yr 20 mlynedd diwethaf, gyda ffigurau diweddar yn awgrymu fod cymaint â 33 y cant o blant Americanaidd dros eu pwysau ac 17 y cant yn ordew. Mae gan blant gordew risg cynyddol o ddod yn oedolion gordew, gan eu gwneud yn agored i glefyd cardiofasgwlaidd a diabetes. Roedd sampl yr astudiaeth yn cynnwys 795 o blant rhwng 0 a 18 oed, sy'n cael eu disgrifio fel plant pwysau arferol neu dros bwysau ac sydd wedi cael llawdriniaeth i dynnu tonsiliau neu adenoidau. Mewn 47.7 y cant o gleifion, y prif reswm dros lawdriniaeth oedd problemau anadlu wrth gysgu. Roedd y grŵp cyntaf yn cynnwys tair astudiaeth o 127 o blant; roedd Mynegai Mas eu Cyrff (BMI) wedi cynyddu 5.5 y cant i 8.2 y cant. Roedd yr ail grŵp yn cynnwys tair astudiaeth o 419 o gleifion yr oedd eu sgôr pwysau safonol wedi cynyddu 46 y cant i 100 o gleifion. Roedd y trydydd grŵp yn cynnwys tair astudiaeth gyda 249 o gleifion, gyda 50 y cant i 75 y cant o'r cleifion yn magu pwysau yn dilyn tynnu adenoidau. Roedd y diffiniad o fod dros bwysau'n wahanol ar gyfer pob un o'r tair astudiaeth. Meddai'r Dr Anita Jeyakumar, awdur yr astudiaeth: "Efallai bod amrywiaeth o fecanweithiau posibl yn gyfrifol am fagu pwysau yn dilyn tynnu adenoidau. "Mae'n bosibl fod gan blant â thonsilitis cronig dysffagia neu odynoffagia all arwain at ostyngiad mewn cymeriant calorïau. "Ar ôl i'r tonsiliau afiach gael eu tynnu, mae'r plentyn wedyn yn gallu bwyta calorïau ychwanegol. "Efallai y bydd rhieni hefyd yn teimlo gorfodaeth i or-fwydo eu plentyn wrth iddo wella yn dilyn salwch cronig neu lawdriniaeth, gan ychwanegu eto at gymeriant calorïau a magu pwysau." Yn seiliedig ar y canfyddiadau hun, argymhellodd Dr Jeyakumar bod rhieni plant sy'n cael tynnu tonsiliau'n derbyn cyngor ar ddiet a ffordd o fyw. Ychwanegodd: "Mae monitro tyfiant yn dilyn llawdriniaeth yn allweddol er mwyn sicrhau fod tyfiant dal i fyny'n digwydd o fewn terfynau iach." |
| LAST_UPDATED2 |
No current events.