Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Her Arloesi mewn Iechyd
Her Arloesi mewn Iechyd PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 MARCH 2011 12:14

Mae'r Gronfa Her Arloesedd mewn Iechyd (HICF) yn bartneriaeth cyllido cyfochrog gwerth £100 dros bum mlynedd rhwng Ymddiriedolaeth Welcome a'r Adran Iechyd. Ei amcan yw sbarduno creu cynnyrch, technoleg ac ymyriadau arloesol mewn gofal iechyd, ac i hwyluso eu datblygu er lles cleifion yn y GIG a thu hwnt.

Nid oes unrhyw swm cyllido penodol a bydd hyd at 100 y cant o'r costau economaidd llawn yn cael eu cynnwys.

Bydd y mathau canlynol o sefydliadau (yn unigol neu mewn cydweithrediad) yn agored i gael eu cyllido: sefydliadau'r GIG (yn cynnwys Ymddiriedolaethau'r GIG ac Ymddiriedolaethau Sylfaen y GIG) ac awdurdodau cyfatebol yn y DU; Prifysgolion, sefydliadau ymchwil a sefydliadau ddim er elw; cwmnïau dechreuol sydd wedi eu sefydlu i ddal ac i ddatblygu eiddo deallusol sy'n berthnasol i ofal iechyd; cwmnïau biodechnoleg, fferyllol, biowybodaeth, peirianyddol neu eraill.

Thema'r alwad newydd am gynigion yw "llawdriniaeth clyfar: technolegau neu ymyriadau arloesol i leihau, disodli neu fireinio dulliau llawdriniaeth mewnwthiol.

Y blaenoriaethau ar gyfer yr HCIF yw:

  • Annog nwyddau arloesol er lles cleifion
  • Cynyddu'r defnydd o gamau technolegol newydd mewn llwybrau rheoli cleifion
  • Integreiddio'r cymunedau clinigol, ymchwil, gwybodaethol a datblygu nwyddau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2011 yw 28 Ebrill 2011.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Welcome Trust .

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.