Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Adnodd newydd ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes plant a phobl ifanc
Adnodd newydd ar gael ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes plant a phobl ifanc PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 MARCH 2011 12:15

Mae Participation—Young Spice yn adnodd gwerthfawr wedi'i gynhyrchu gan Dynamix, ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant dan 11 oed – yn cynnwys staff awdurdodau lleol, athrawon, gweithwyr chwarae a gofal a gweithwyr iechyd.

dynamixflyerOs ydych chi o ddifrif am gynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith o wneud penderfyniadau, bydd y llyfr hwn yn eich helpu. Bydd yn eich tywys drwy gyd-destun y gwaith hwn, yn rhoi pecyn o ddulliau i chi wneud eich gwaith yn fwy effeithiol, ac yn amlygu'r problemau er mwyn i chi allu eu hosgoi. Mae cartwnau da ynddo hefyd!

Mae Participation—Young Spice yn seiliedig ar ddulliau profedig wedi eu sylfaenu ar egwyddor — dull llawn hwyl i ymwneud â chyfranogiad a chynhwysiad.

Ffoniwch 01792 466231 os hoffech ei archebu, neu gallwch ei archebu fan hyn am £21.95:

http://www.dynamix.ltd.uk/books/view-all-products.html

Os ydych chi yng Nghymru, gallwch lawrlwytho fersiwn fan hyn:

http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/youngspice/?lang=en

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.