Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Rhybudd am ordewdra wrth i chwarter o'n plant fyw bywydau unig
Rhybudd am ordewdra wrth i chwarter o'n plant fyw bywydau unig PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 MARCH 2011 12:17

Mae bron chwarter o'n plant sydd byth yn chwarae tu allan oherwydd tywydd gwael, bywydau gor-brysur ac ofnau afresymol ynghylch damweiniau a chipio plant, yn ôl ymchwil.

Honnwyd bod ieuenctid dan 16 oed bellach yn treulio dwywaith cymaint o'u hamser hamdden yn y cartref ag mewn mannau gwyrdd.

Dywedodd ymchwilwyr fod y "genhedlaeth dan do" yn dod yn gynyddol anwybodus ynghylch natur wrth i rieni ganiatáu iddynt wastraffu oriau o flaen y teledu, gemau fideo a'r rhyngrwyd.

Dywedodd arbenigwyr fod methiant i chwarae tu allan yn bwydo lefelau gordewdra gan arwain at blant sy'n llai parod i ddelio gyda gwahanol bwysau bywyd modern.

Dywedodd Dr William Bird, meddyg teulu ac ymgynghorydd gyda Natural England: "Os ydych chi eisiau mynd i'r afael â gordewdra a gweithgaredd corfforol, rhaid i hynny gynnwys yr amgylchedd naturiol."

Ychwanegodd: "Mae bod tu allan i blant yn creu gwydnwch er mwyn iddynt allu ymdopi â mwy o straen; gallant gynyddu eu gallu i ganolbwyntio, gallant wella eu gwaith."

Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn astudiaeth gan ymchwilwyr Future Foundation ar i ba raddau y mae plant ac oedolion yn cael eu gwahanu oddi wrth y byd tu allan.

Canfu'r adroddiad – oedd yn seiliedig ar arolygon ar wahân ar 1,000 o oedolion a 500 o rieni plant rhwng 5 ac 16 oed – fod pobl ifanc yn gynyddol yn fwy tebygol o chwarae dan do.

Adroddodd rhieni fod eu plant yn treulio cyfartaledd o 16 awr o'u hamser hamdden dan do bob wythnos, o gymharu â dim ond 8 awr y tu allan.

Datgelwyd fod tua 22 y cant o famau a thadau wedi dweud bod eu plant "yn anaml neu fyth" yn treulio unrhyw amser y tu allan. Gwylio'r teledu oedd y gweithgaredd hamdden mwyaf poblogaidd i bobl ifanc yn ôl yr astudiaeth, gyda chwarae gemau fideo a defnyddio'r rhyngrwyd wedyn.

Dangosodd yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Arla Foods, mai wythfed oedd chwarae chwaraeon y tu allan wrth fesur beth oedd yn boblogaidd gan blant wrth dreulio eu hamser hamdden.

Dywedodd yr adroddiad fod "ffyrdd o fyw gor-brysur a thywydd di-ddal" yn cael eu rhoi fel y ddau brif reswm pam nad oedd pobl yn mynd allan mor aml ag y byddent yn dymuno.

Dywedodd tua 45 y cant o'r rhieni hefyd eu bod yn bryderus am ddiogelwch eu plant wrth iddynt chwarae'r tu allan.

"Mae cyfweliadau ansoddol yn dangos er bod bygythiad cipio plant yn bryder, mae rhieni'n fwy pryderus am ddamweiniau ffordd a bwlio," meddai'r adroddiad.

Wrth siarad gydag ymchwilwyr, honnodd nifer o arbenigwyr fod plant yn mynd yn gynyddol anwybodus o'r byd ehangach wrth iddynt dreulio mwy o amser o flaen sgriniau.

Meddai Tim Gill, yr awdur a'r ymgynghorydd plant: "Yn gyffredinol, rydyn ni a'n plant yn treulio mwy o amser mewn gwahanol flychau, sy'n cynnwys tai a cheir a chanolfannau siopa."

Dywedodd Dr Bird, sylfaenydd yr ymgynghorwyr Intelligent Health: "Rwy'n credu fod pobl yn meddwl ei bod hi'n bwysig i ddysgu plant am natur.

"Ond maen nhw'n gwneud hyn drwy ffilmiau a llyfrau, a dydyn nhw ddim yn mynd allan, dydyn nhw ddim yn cysylltu. Felly mae'n edrych fel ymarferiad academaidd: fel dysgu am y lleuad. Dydych chi ddim yn mynd i'r lleuad, rydych chi'n edrych arno mewn llyfrau ac ar y we."

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.