Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > LazyTown a Sportacus yn ymuno â'r ymgyrch i wella iechyd plant
LazyTown a Sportacus yn ymuno â'r ymgyrch i wella iechyd plant PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
FRIDAY, 25 MARCH 2011 12:18

Mae'r Blaid Geidwadol yn mynd i ddefnyddio rhaglen deledu cwlt i hyrwyddo gweithgareddau corfforol ac i ymosod ar fwyd sothach.

Cred gweinidogion ei bod hi'n bosibl eu bod wedi dod ar draws arf newydd yn y frwydr yn erbyn gordewdra: cyfres deledu i blant yn dangos fod ffyrdd o fyw iach yn gallu bod yn hwyl.

Cred Andrew Lansley, yr ysgrifennydd iechyd, y gall sêr cyfres y BBC, Lazy Town helpu i gyfeirio pobl ifanc at weithgareddau corfforol a bwyta'n iach.

Mae wedi cynnal trafodaethau gyda Magnus Scheving, gwneuthurwr y sioe sy'n arwr ffit dros ben ac yn gymeriad canolog, ynghylch sut y gall llwyddiant y sioe helpu ymgyrch y llywodraeth i fynd i'r afael â diwylliant diogi.

Mae LazyTown wedi ei anelu at blant rhwng pedair a saith oed, a chaiff ei ddangos ar sianel CBeebies, ac mae'n boblogaidd iawn.

Yn y rhaglen, mae Scheving yn chwarae rhan Sportacus sy'n athletaidd ac yn acrobataidd, ac mae'n ceisio perswadio plant LazyTown i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn yr awyr agored yn hytrach na chwarae gemau fideo ac i anwybyddu Robbie Rotten, sy'n bwyta bwyd sothach ac sydd am iddyn nhw fod yn ddiog.

Trodd y Ceidwadwyr at Scheving am y tro cyntaf pan oedden nhw'n wrthblaid, a mynychodd sesiwn canfod syniadau'r blaid oedd yn cael ei gynnal gan David Cameron a Lansley. Cafodd y gŵr o Wlad yr Iâ ganmoliaeth gan weithwyr iechyd proffesiynol y DU pan gerddodd ar ei ddwylo ar lwyfan cynhadledd Fforwm Gordewdra Cenedlaethol.

"Mae cysylltu gyda LazyTown yn debygol iawn o lwyddo gyda phlant oedran cyn ysgol ac ysgol gynradd," meddai Tam Fry, llefarydd y fforwm. "Mae Sportacus yn gwlt gyda'r plant, ac mae Magnús Scheving a'i dîm yn farchnatwyr rhagorol. Ond a fydd hyn yn ysbrydoli plant i barhau gyda'u harwraddoliaeth hyd eu glasoed? Rwy'n amau hynny."

Mae Lansley wedi ceisio ysbrydoliaeth gan y sioe fel rhan o gam newydd yn ymgyrch byw yn iach y Llywodraeth, Change4Life a'r Fargen Cyfrifoldeb gyda'r diwydiant bwyd a diodydd, sy'n cael ei lansio ddydd Mawrth. Anfonwyd dogfen friffio at arweinwyr diwydiant ac arbenigwyr iechyd cyn cynnal cyfarfod cyn-lansio yfory yn yr Adran Iechyd. Yn y ddogfen dywedir mai un prif amcan yw "harneisio poblogrwydd LazyTown a'r cymeriadau i annog treialu a pharhau gydag ymddygiadau iachach".

Ddydd Mawrth bydd arweinwyr y diwydiant bwyd ac alcohol yn ymrwymo'n gyhoeddus i helpu i hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach fel rhan o'r Fargen Cyfrifoldeb yn gyfnewid am addewid flaenorol Lansley i beidio â defnyddio rheoleiddio neu ddeddfwriaeth i'w gorfodi i chwarae eu rhan. Ond mae beirniaid iechyd cyhoeddus yn credu fod yr ysgrifennydd iechyd yn bod yn rhy ysgafn gyda diwydiannau y mae eu nwyddau a'u gweithgareddau'n porthi ymddygiad afiach.

Maen nhw'n dweud nad yw'r addewidion y bydd y cwmnïau mawr yn eu llofnodi'n mynd yn ddigon pell gan bwyntio at negeseuon mynych i wneuthurwyr bwyd mewn ymgyrchoedd penodol, megis Antur Fawr yr Haf, fydd yn rhoi cyfle iddynt farchnata eu nwyddau i blant ac i famau.

"Mae'n rhaid bod y diwydiant wrth eu boddau," meddai Jackie Schneider o'r Ymgyrch Bwyd Plant, cynghrair o grwpiau meddygol ac addysgiadol amlwg. "Nid yn unig eu bod wedi dianc rhag unrhyw gyfyngiadau ar farchnata a labelu, ond mae'n edrych yn debyg y byddan nhw'n cael cyfle ffantastig i farchnata eu nwyddau'n uniongyrchol i blant a theuluoedd dan gysgod ymgyrch byw yn iach sy'n cael ei gefnogi gan y llywodraeth.

Bydd hyn yn caniatáu i gwmnïau bwydydd ymddangos yn gyfrifol tra'n tynnu sylw oddi wrth yr eliffant gordew yn yr ystafell: y camau gwirioneddol y gallai'r diwydiant eu cymryd i helpu i'n hatal rhag bod y wlad dewaf yn Ewrop."

Ni fyddai cynlluniau'r adran iechyd i gynnig sticeri i blant yn wobr am ymddygiad iach, "pasbortau" gweithgareddau haf yn cael eu dosbarthu drwy'r ysgolion a thalebau arian i ffwrdd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i argyfwng gordewdra cynyddol Prydain, ychwanegodd: "Mae'n edrych mwy fel dull effeithiol o farchnata i'r diwydiant – gyda haen o gyfrifoldeb cymdeithasol – yn hytrach na strategaeth iechyd cyhoeddus."

LAST_UPDATED2
 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.