Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Mae pobl 'ofn rhoi troed ar y glorian'
Mae pobl 'ofn rhoi troed ar y glorian' PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 03 Mai 2011 09:06

Mae un o bob pump mor ofnus ynghylch canfod eu pwysau fel mai dim ond ar gyfer pwyso cesys, anifeiliaid anwes a pharseli y maen nhw'n defnyddio eu clorian, yn ôl astudiaeth.

Canfu arolwg o 3,000 o bobl a gynhaliwyd ar ran Fferyllfeydd y Co-Op fod llawer o bobl sydd dros eu pwysau neu'n ordew hefyd yn meddwl eu bod yn pwyso llai nag y maent mewn gwirionedd.

Cyfaddefodd tua 40 y cant eu bod dros bwysau neu'n ordew - ond mae ystadegau swyddogol yn dangos fod y ffigur gwirioneddol tua 65 y cant.

Roedd un o bob pump hefyd heb wybod fod bod dros bwysau'n cynyddu'r perygl o glefyd y galon, gyda'r mwyafrif (60 y cant) heb wybod ei fod yn cynyddu'r risg o ganser a chlefydau eraill.

Meddai Fiona Caplan-Dean, Rheolwr Gwasanaethau Clinigol i Fferyllfeydd y Co-op: "Mae'n bryder mawr nad yw pobl yn gwybod beth yw eu pwysau delfrydol a'u bod yn gwbl anymwybodol o'r risgiau difrifol i iechyd sy'n dod yn sgil bod dros bwysau."

Ychwanegodd: "Mae cyfoeth o wybodaeth ar iechyd ac opsiynau colli pwysau ar gael yn hawdd ond mae'n amlwg fod pobl yn dal i deimlo embaras wrth drafod y mater gydag arbenigwyr iechyd."

Mae bod dros bwysau'n cael ei ddiffinio fel rhywun sydd ag indecs màs y corff (BMI) rhwng 25 a 29.9. Diffiniad bod yn ordew yw BMI dros 30. Caiff BMI ei gyfrifo drwy rannu pwysau rhywun mewn cilogramau gyda thaldra rhywun mewn metrau wedi'i sgwario.

Yn ôl ystadegau swyddogol, mae 44 y cant dros bwysau gyda 22 y cant arall yn ordew. Ymysg menywod mae 33 y cant dros bwysau a 24 y cant yn ordew.

Ym mis Chwefror canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn The Lancet mai ym Mhrydain mae'r menywod tewaf o bob gwlad yn Ewrop, gyda chyfartaledd BMI yn 26.9.

Dim ond dynion Sbaen sy'n curo dynion Prydain o blith y prif wledydd Ewropeaidd; mae cyfartaledd BMI dynion ym Mhrydain yn 26.6.

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.