| Gordewdra: y rhifau |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 03 Mai 2011 09:12 |
|
Wrth i ddyn 20 stôn gael clywed nad yw'n ddigon gordew i gael llawdriniaeth ar y GIG, dyma ddetholiad o ffeithiau a ffigurau diddorol, ysgytiol a hollol od am ordewdra. 7 mlynedd Amcangyfrifir fod gordewdra'n lleihau disgwyliad oes o hyd at saith mlynedd. Gyda gordewdra cymedrol, rhwng dwy a phedair blynedd yw'r effaith ar hyd oes, gyda gordewdra difrifol yn lleihau disgwyliad oes o ryw 10 mlynedd. 21.3kg Pwysau'r gath drymaf a gofnodwyd, Himmy, cath frech wedi'i dirywio, oedd yn byw yn Queensland, Awstralia. Bu farw Himmy yn 10 oed o fethiant resbiradol. Mae adroddiadau wedi bod am gathod eraill yn pwyso rhywbeth tebyg ond mae'r Guiness Book of Records wedi rhoi'r gorau i gofnodi enwebiadau'n swyddogol ar gyfer y record er mwyn atal gorfwydo gan berchenogion. 24 y cant Mae bron un o bob pedwar oedolyn ym Mhrydain yn ordew. Gallai'r ffigur hwn godi i 8 o 10 dyn a 7 o bob 10 menyw erbyn 2020, yn ôl adroddiadau. 30kg/milltir sgwâr Mae pobl sydd â mynegai màs y corff (BMI) dros 30 yn cael eu dosbarthu'n ordew. Mae BMI'n cael ei gyfrifo drwy gymhareb o bwysau a thaldra a gallai rhywun sy'n 5 troedfedd ac yn pwyso 70.5kg neu sy'n 5 troedfedd 10 modfedd ac yn pwyso 95.5kig gael eu dosbarthu'n ordew. 70 stôn Pwysau rhywun y mae 'ambiwlans gordewdra' a ddyluniwyd yn arbennig yn gallu ie gario, cyn belled â bod y claf mewn gwely bariatrig. Dim ond pobl hyd at 20 stôn sy'n gallu cael eu cludo mewn ambiwlans gyffredin. 136g Faint o fraster sydd mewn ysgytlaeth "PB&C", sy'n cael ei adnabod yn answyddogol fel diod mwyaf afiach America. Mae 2,010 calori mewn un gwydraid - yr un faint â 68 sleisen o gig moch - ac mae'r diod wedi'i wneud gyda hufen iâ siocled, menyn cnau daear a hufen. 190 o farwolaethau Bu farw dros 190 o bobl dan 65 oed o ganlyniad uniongyrchol i'w gordewdra yn 2009, a barnwyd fod gordewdra'n ffactor a gyfrannodd tuag at farwolaeth dros 757 o bobl eraill. 711 o bobl Y nifer o bobl a geisiodd ac a fethodd fwyta'r Belly Bruiser, byrger enfawr 30,000 calori gafodd ei weini mewn tafarn yn Pennsylvania cyn i Brad Sciullo, bwytäwr cystadleuol, goncro'r her mewn 4 awr a 39 munud yn 2008. Roedd y byrger yn cynnwys bwnen 22 owns, 15 pwys o gig eidion mâl a 3 phwys o gaws. £100,000 Y gost blynyddol i drethdalwyr Prydain am driniaeth i Paul Mason oedd yn 70 stôn ac a gafodd ei enwi'n ddyn tewaf Prydain cyn cael llawdriniaeth gastrig i achub ei fywyd. Yn 2009, blwyddyn ei lawdriniaeth, cododd hyn i £1 miliwn oedd yn cynnwys ambiwlans wedi'i atgyfnerthu i'w gludo i'r ysbyty. £4.3 biliwn Cyfanswm yr arian yr amcangyfrifir y mae gordewdra'n ei gostio i'r GIG bob blwyddyn
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.