| Cynnydd o 70% mewn llawdriniaethau gordewdra mewn blwyddyn |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 03 Mai 2011 09:14 |
|
Mae ffigurau swyddogol yn dangos fod nifer y llawdriniaethau lleihau tewdra wedi cynyddu 70 y cant mewn un flwyddyn gan arwain at gost ychwanegol o £20 miliwn i'r GIG yn Lloegr. Cododd nifer y triniaethau band gastrig a heibiad gastrig - a elwir yn lawdriniaethau bariatrig - o ychydig dros 4,200 i 7,214 y llynedd, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y GIG. Menywod gafodd y mwyafrif o'r llawdriniaethau, sef 80 y cant. Golyga hyn fod cost llawdriniaeth bariatrig i'r GIG yn Lloegr wedi codi o ryw £30 miliwn i £50 miliwn. Bu 30 y cant o gynnydd hefyd yng nghyfanswm nifer y bobl gafodd eu derbyn i'r ysbyty oherwydd gordewdra, o 7,988 i 10,571. Dros y ddegawd ddiwethaf mae'r nifer hwn wedi cynyddu 10 gwaith, o 979 ym 1999/00. Meddai Tam Fry, o'r Fforwm Gordewdra Cenedlaethol: "Dyma'r ail flwyddyn yn olynol i gyfraddau godi 30 y cant a fyddwn i ddim yn synnu pe byddai'r ffigurau ar gyfer 2011/12 yn debyg. "Byddan nhw'n profi i'r rhai sydd am anwybyddu difrifoldeb yr argyfwng gordewdra yn union pa mor ddrwg yw'r sefyllfa, ac mae'r cynnydd mewn llawdriniaeth bariatrig yn arbennig o ddadlennol. "Nod oes modd galw'r llywodraeth bresennol i gyfrif am ordewdra fel y mae'n bodoli heddiw ond rhaid ei dal i gyfrif os nad yw ei pholisïau wedi eu ffocysu'n well i fynd i'r afael â'r mater o hyn ymlaen." Yn ôl yr Adran Iechyd, mae afiechydon sy'n gysylltiedig â gordewdra yn costio £4.3 y flwyddyn i'r GIG. Amddiffynnodd John Black, llywydd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, y defnydd o lawdriniaeth bariatrig ar sail costau ac oherwydd bod "angen sylweddol heb ei gwrdd" amdano ymysg cleifion. Meddai: "Dangosodd dadansoddiad economaidd y llynedd fod y llawdriniaeth hon wedi talu am ei hun o fewn blwyddyn wrth wella cyd-forbidrwydd a chael pobl yn ôl i'r gwaith yn hytrach nag ar fudd-daliadau." Mae'r ffigurau hefyd yn dangos fod dros hanner yr oedolion yn Lloegr naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ymysg dynion mae 44 y cant dros bwysau, gyda mynegai màs y corff (BMI) o rhwng 25 a 29.9, gyda 22 y cant arall yn ordew (BMI dros 30). Ymysg menywod mae 33 y cant dros bwysau a 24 y cant yn ordew. Mae canran yr oedolion sydd â mesuriad eu canol yn uchel - dros 40 modfedd (102cm) i ddynion a dros 34.7 modfedd (88cm) i fenywod - wedi codi o 23 y cant ym 1993 i 38 y cant yn 2009. Mae'n hysbys fod hyn yn cynyddu'r risg o broblemau iechyd, yn cynnwys clefyd y galon a diabetes. Fodd bynnag, mae arwyddion o rai gwelliannau - er mai rhai bach ydyn nhw. Mae canran y dynion gordew wedi gostwng o 24 i 22 y cant rhwng 2008 a 2009, ac o 25 i 24 y cant o fenywod. Er bod faint y mae pobl yn ei fwyta bob dydd, yn ôl cymeriant calorïau, wedi cynyddu ychydig rhwng 2008 a 2009 o 2,276 i 2,303 calori, noddodd yr adroddiad fod "y duedd cyffredinol o 2006 yn lleihau." Mae pobl hefyd yn bwyta llai o fraster dirlawn, traws fraster a siwgr wedi'i ychwanegu na degawd yn ôl, a gall hyn gyfrannu tuag at glefyd y galon a diabetes os cânt eu bwyta'n ormodol. Mae'n ymddangos fod plant hefyd yn bwyta'n fwy iach: rhwng 2004 a 2009 mae canran y rhai rhwng 5 a 15 oed sy'n bwyta'r 5 neu ragor o ffrwythau a llysiau y dydd a argymhellir wedi codi o 12.5 i 21.5 y cant. Dywedodd lefarydd ar ran yr Adran Iechyd fod angen "agwedd newydd" tuag at fynd i'r afael â gordewdra. Meddai: "Dyna pam na wastraffodd y Glymblaid unrhyw amser cyn cyhoeddi papur gwyn ar iechyd cyhoeddus y llynedd. "Mae'n esbonio ein cynlluniau i gyflwyno cyllidebau penodol ar gyfer iechyd cyhoeddus a roi grymoedd newydd i gynghorau lleol yrru gwelliannau ymlaen. Yn ogystal, drwy ein cytundebau partneriaeth gyda'r sector gwirfoddol a diwydiant, rydym wedi symud ymhellach ac yn gynt i gael gwared ar draws fraster artiffisial, i leihau halen ac i nodi calorïau ar fwydlenni. "Fel rhan o Newid am Oes, rydyn ni'n annog pobl i wneud newidiadau syml, megis bwyta mwy o ffrwythau a llysiau, torri i lawr ar fwydydd brasterog a bod yn fwy actif," meddai.
|
No current events.