| Plant gordew'n fwy tebygol o aros i fyny'n hwyr ar y penwythnos |
|
|
|
| Ysgrifennwyd gan Hall Aitken |
| TUESDAY, 03 Mai 2011 09:16 |
|
Mae plant sy'n cael aros i fyny'n hwyr ar y penwythnos yn fwy tebygol o fod yn ordew yn ôl astudiaeth ddiweddar. Mae'r rhai sy'n cael eu hanfon i'r gwely'n gynnar ar y penwythnos yn cael cyfle i ddal i fyny ar y cwsg nad ydyn nhw'n ei gael drwy'r wythnos, ac maen nhw'n tueddu i fod yn deneuach, yn ôl canfyddiadau'r adroddiad a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Americanaidd Pediatrics. Bu academyddion yn monitro 308 o blant rhwng 4 a 10 oed, gan fesur mynegai màs y corff (BMI) bob un ohonyn nhw ac archwilio'u patrymau cwsg gan ddefnyddio synwyryddion symudiadau'r arddwrn. Roedd y plant yn cael cyfartaledd o wyth awr o gwsg yn ystod yr wythnos - llai na'r hyn sy'n cael ei argymell - heb unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng y plant tewach a'r rhai teneuach. Ond ar benwythnosau roedd y plant gordew yn cael patrymau cwsg byrrach a mwy afreolaidd, yn ôl canfyddiadau ymchwilwyr ym Mhrifysgol Chicago. Roedd iechyd y rhai oedd â gwaeth patrymau cysgu ar y penwythnos yn waith o ran lefelau inswlin uwch - sy'n gallu arwain at diabetes Math II dros gyfnod maith, lefelau uwch o golesterol 'drwg' (LDL), a lefelau uwch o brotein C-adweithiol sydd wedi cael ei gysylltu gyda chlefyd y galon yn ddiweddarach mewn bywyd. Canfu'r awduron: "Roedd plant gordew'n llai tebygol o brofi cwsg "dal i fyny" ar y penwythnos ac roedd y cyfuniad o gyfnod byrrach o gwsg a phatrymau cwsg mwy amrywiol yn gysylltiedig â deilliannau metabolaidd niweidiol." Credir fod diffyg cwsg yn arwain at gynhyrchu mwy o ghrelin, hormon sy'n cael ei gynhyrchu yn y stumog, a gostyngiad yn y gollyngiad o hormon o'r enw leptin mewn celloedd braster. Dangoswyd fod gormod o ghrelin a dim digon o leptin yn arwain at gynnydd mewn archwaeth. Daeth yr awduron i'r casgliad: "Gall ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus sy'n anelu at addysgu teuluoedd ynghylch manteision cwsg hirach a mwy rheolaidd arwain at lai o ordewdra a thueddiadau metabolaidd metabolaidd i'n plant." Mae Academi Meddyginiaeth Cwsg America'n argymell bod plant cyn-ysgol yn cael rhwng 11 a 13 awr o gwsg bob nos, a phlant oed ysgol yn cael 10 i 11 awr y noson.
|
| LAST_UPDATED2 |
No current events.