Big Way Of Life

Cartref > Newyddion > Diweddaraf > Diodydd egni â'r potensial i fod yn beryglus i blant yn ôl meddygon
Diodydd egni â'r potensial i fod yn beryglus i blant yn ôl meddygon PDF Argraffu Ebost
Ysgrifennwyd gan Hall Aitken   
TUESDAY, 03 Mai 2011 09:17

Mae meddygon wedi rhybuddio y gallai diodydd egni fod yn beryglus i blant a phobl ifanc yn eu harddegau.

Mae'r diodydd uchel mewn caffein yn aml yn cynnwys cynhwysion eraill megis tawrin, gwarana a jinseng a gallent achosi "ffitiau, mania, strôc a marwolaethau sydyn", yn ôl meddygon oedd yn ysgrifennu yn y cylchgrawn Americanaidd Pediatrics.

Yn dilyn adolygu effeithiau, canlyniadau niweidiol a graddau yfed diodydd egni ymhlith plant a phobl ifanc, daethant i'r casgliad: "Nid oes gan ddiodydd egni unrhyw fanteision therapiwtig , ac mae llawer o'r cynhwysion yn rhai sydd heb eu hastudio'n ddigonol na'u rheoleiddio."

Mae diodydd egni'n cael eu marchnata'u gyffredin i ieuenctid, gyda gwneuthurwyr yn defnyddio chwaraeon fel sglefrio, eirafyrddio a Fformiwla Un i ddenu cwsmeriaid.

Canfuwyd fod llawer ohonynt yn cynnwys tair gwaith gymaint o gaffein â chan o cola, gydag eraill yn cynnwys pum gwaith gymaint.

Mae pobl ifanc yn aml yn yfed nifer o ganiau mewn noson, gyda rhai ohonynt yn eu cyfuno gydag alcohol.

Y peth diweddaraf ymysg gwneuthurwyr yw gwneud diodydd bach maint 'siot' gyda lefelau uchel dros ben o gaffein. Mae Lucozade Alert Plus, er enghraifft, ddwywaith mor gryf â choffi arferol.

Rhybuddiodd y meddygon o adran paediatreg Prifysgol Miami: "Mae'r diodydd hyn yn aml yn cynnwys lefelau uchel heb eu rheoleiddio o gaffein, ac maen nhw wedi cael eu hadrodd mewn cysylltiad ag effeithiau niweidiol difrifol, yn enwedig mewn plant, y glasoed ac oedolion ifanc, gyda ffitiau, diabetes, abnormaleddau cardiaidd, neu anhwylderau hwyliau ac ymddygiad neu gyda'r rhai sy'n cymryd rhai meddyginiaethau penodol."

Dywedodd y meddygon y gallai diodydd caffein uchel "waethygu cyflyrau cardiaidd" mewn plant gan arwain at orbwysedd, curiad calon afreolaidd a hyd yn oed at farwolaeth sydyn.

Roedd y perygl i rai bobl ifanc ag anhwylderau bwyta megis anorecsia, allai fod yn "cymryd lefelau uchel o gaffein yn rheolaidd i ymladd blinder cysylltiedig â chyfyngu ar galorïau" yn achos pryder mawr.

Yn ôl un astudiaeth a ddyfynnwyd gan awduron yr adroddiad, mae diodydd egni'n cael eu hyfed yn rheolaidd gan dros chwarter (28 y cant) o ieuenctid rhwng 12 a 14 oed.

Canfu un arall y byddai un can o ddiod egni yn golygu bod saith o bob deg plentyn (rhwng 5 a 10 oed) yn yfed lefel o gaffein sydd â'r potensial i fod yn beryglus.

Pwysodd yr awduron: "Oni bai bod ymchwil yn sefydlu diogelwch diodydd egni mewn plant a'r glasoed, byddai rheoleiddio'n ... ddoeth."

Yn 2001 nododd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei fod yn credu bod diodydd egni fel Red Bull "mor ddiogel â diodydd eraill i oedolion eu hyfed yn gymedrol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Diodydd Meddal Prydain: "Mae diodydd meddal â lefelau uchel o gaffein yn ddiogel i'r boblogaeth yn gyffredinol. Mae'r holl gynhwysion sydd ynddynt wedi eu cymeradwyo yn rhai diogel i'w defnyddio gan gyfraith Ewrop ac maen nhw'n cynnwys cymaint o gaffein â phaned o goffi."

Ychwanegodd: "Mae'r diwydiant diodydd meddal wedi mabwysiadu cod ymarfer ar lefelau uchel o gaffein mewn diodydd meddal sy'n datgan barn y diwydiant nad yw diodydd o'r fath yn addas i blant, ac mae'n nodi y dylid rhoi'r wybodaeth hon yn glir ar y label.

"Mae hefyd yn nodi na fydd diodydd meddal caffein uchel yn cael eu hyrwyddo na'u marchnata i rai dan 16 oed."

 

 

Digwyddiadau ar y gorwel

No current events.